Quick Links

Trosglwyddydd Gwenfô

in9_thumb.jpg

Gwybodaeth i breswylwyr

Bydd trosglwyddydd Gwenfô a’i 75 trosglwyddydd llai (a elwir yn grŵp trosglwyddydd) yn newid i ddigidol mewn dau gam. Os ydych yn cael gwasanaeth Sky TV, Freesat from Sky neu freesat ar eich holl setiau teledu, ni fydd y newid yn effeithio arnoch.

Ond, os ydych wedi newid i ddigidol trwy fanteisio ar wasanaeth Freeview, BT Vision neu Top Up TV, bydd angen i chi gofio dau ddyddiad, a bydd angen i chi fod yn barod cyn dyddiad cyntaf y newid.

Dau ddyddiad i’w cofio

Cam 1

03032010

Cam 2

31032010

Bydd BBC Two yn newid i ddigidol a bydd rhai sianelau digidol newydd ar gael. Bydd hyn yn golygu:

  • Os na fyddwch wedi newid, byddwch yn colli BBC Two
  • Os oes gennych Freeview, TB Vision neu Top UP TV, bydd angen i chi aildiwnio’ch offer

Bydd y sianelau analog sydd ar ôl yn newid i ddigidol a bydd y sianelau digidol sy’n weddill ar gael. Bydd hyn yn golygu:

  • Os na fyddwch wedi newid i ddigidol, byddwch yn colli eich gwasanaeth teledu
  • Os oes gennych Freeview, TB Vision neu Top UP TV, bydd angen i chi aildiwnio’ch offer unwaith eto

Beth fydd yn digwydd rhwng dau ddyddiad y newid i ddigidol?

Bydd trosglwyddydd Mynydd Cilfái a’i 9 trosglwyddydd llai (a elwir yn grŵp trosglwyddydd) yn newid i ddigidol mewn dau gam. Os ydych yn cael gwasanaeth SKY TV, Freesat from Sky neu freesat ar eich holl setiau teledu, ni fydd y newid yn effeithio arnoch.

Ond, os ydych wedi newid i ddigidol trwy fanteisio ar wasanaeth Freeview, BT Vision neu Top Up TV, bydd angen i chi gofio dau ddyddiad, a bydd angen i chi fod yn barod cyn dyddiad cyntaf y newid

Trosglwyddyddion Llai Grŵp trosglwyddydd Gwenfôl:

Aberbeeg Crumlin Machen Risca
Abercynon Cwm Ffrwd Oer Upper Sennybridge
Aberdare Cwmafon Maesteg South Maesteg
Abergavenny Cwmaman Merthyr Tydfil South Tredegar
Abertillery Cwmfelinfach Monmouth Taffs Well
Abertridwr Deri Mynydd Bach Ton Pentre
Bargoed Dowlais Mynydd Machen Tonypandy
Bedlinog Ebbw Vale Nant y Moel Tonyrefail
Blackmill Ebbw Vale South Nantyglo Ogmore Vale Trebanog
Blaenau Gwent Ferndale Pennar Trecastle
Blaenavon Fernhill Pennorth Trefechan
Blaenllechau Gellifendigaid Penrhiwceiber Treharris
Blaina Gilfach Pontypool Tynewydd Upper
Brecon Llanfach Pontypridd Killay
Chepstow Llanfoist Porth Usk
Clydach Llangeinor Rhondda Fach Van Terrace
Clyro Llanharan Rhondda HP Wattsville
Crickhowell Llanhilleth Rhondda VP Ynysowen
Crucorney Llyswen Rhymney

A fydd y ffaith bod grŵp trosglwyddydd Gwenfôyn newid i ddigidol, yn effeithio arnaf i?

Os ydych yn cael eich signal teledu trwy’ch erial gan grŵp trosglwyddydd Gwenfôl, bydd hyn yn effeithio arnoch chi.

Os ydych yn cael eich signal teledu trwy erial ac os ydych yn gwylio yn ardal Grŵp trosglwyddydd Gwenfô, bydd eich gwasanaeth yn cael ei effeithio o’r dyddiad cyntaf. Efallai bod eich erial yn wynebu gwahanol grŵp trosglwyddydd a fydd yn newid ar ddyddiad arall. Trowch at y map i gael rhagor o wybodaeth.

Bydd y newid i ddigidol yn effeithio ar unrhyw set deledu nad yw wedi’i chysylltu â gwasanaeth lloeren

Y ffordd hawsaf o weld a fydd set deledu yn cael ei heffeithio fydd cadw golwg am y negeseuon a fydd yn ymddangos ar frig eich sgrîn deledu sawl gwaith y dydd. Ni fyddwch yn gweld y negeseuon hyn os ydych yn gwylio gwasanaeth teledu digidol yn barod (e.e. SKY TV, Freeview neu wasanaeth arall) neu os yw’ch erial yn wynebu trosglwyddydd arall a fydd yn newid ar wahanol ddyddiad.

Bydd y neges ar eich sgrîn yn nodi: Os ydych yn gweld y neges hwn, bydd eich set deledu yn cael ei heffeithio gan y newid i ddigidol. Cwestiynau? Ffoniwch Digital UK ar 0845 234 0388

Amhariadau ar wasanaethau

Yn ystod y paratoadau ar gyfer y newid i ddigidol, efallai y bydd gwaith peirianyddol yn amharu ar eich gwasanaeth teledu. Er bod y newid i ddigidol yn ymwneud â’r gwasanaeth teledu, nid y gwasanaeth radio, gallai’r paratoadau ar gyfer y newid amharu ar y gwasanaeth radio hefyd. Am ragor o wybodaeth am y gwaith peirianyddol, cliciwch yma (cyswllt i’r gwaith peirianyddol arfaethedig).

Disruption to Services

During preparations for switchover there may be interruptions to your television service due to engineering work. While digital switchover relates to TV, and not to radio, the preparations to switchover may also result in interruptions to radio service. For more information on engineering works please click here.

When do I switch?

Find out the switchover dates and channels available at your address

Why do you need this?

Help

Still have questions? Find help

User manuals & Re-tune guides

Search & download

Contact us

Still can't find what you're looking for? Call our contact centre:

08456 50 50 50

Opening hours: Mon - Fri 8am - 7pm, Sat 9am - 5pm.

Email us

Sponsors support

Digital UK is working in partnership with: