Gwybodaeth i breswylwyr
Bydd trosglwyddydd Llanddona a’i 19 trosglwyddydd llai (a elwir yn grŵp trosglwyddydd) yn newid i ddigidol mewn dau gam. Os ydych yn cael gwasanaeth Sky TV, Freesat from Sky neu freesat ar eich holl setiau teledu, ni fydd y newid yn effeithio arnoch.
Ond, os ydych wedi newid i ddigidol trwy fanteisio ar wasanaeth Freeview, BT Vision neu Top Up TV, bydd angen i chi gofio dau ddyddiad, a bydd angen i chi fod yn barod cyn dyddiad cyntaf y newid.
Dau ddyddiad i’w cofio
Bydd BBC Two yn newid i ddigidol a bydd rhai sianelau digidol newydd ar
gael. Bydd hyn yn golygu:
- Os na fyddwch wedi newid, byddwch yn colli BBC Two
- Os oes gennych Freeview, TB Vision neu Top UP TV, bydd angen i
chi aildiwnio’ch offer
Bydd y sianelau analog sydd ar ôl yn newid i ddigidol a bydd y sianelau
digidol sy’n weddill ar gael. Bydd hyn yn golygu:
- Os na fyddwch wedi newid i ddigidol, byddwch yn colli eich
gwasanaeth teledu
- Os oes gennych Freeview, TB Vision neu Top UP TV, bydd angen i
chi aildiwnio’ch offer unwaith eto
Beth fydd yn digwydd rhwng dau ddyddiad y newid i ddigidol?
Os oes gennych Freeview, TB Vision neu Top-up TV am y tro cyntaf, bydd angen i chi newid rhwng analog a digidol er mwyn gwylio ystod lawn y sianelau sydd ar gael rhwng dau dyddiad y newid i ddigidol. Cliciwch yma os hoffech weld sut i wneud hyn.
Trosglwyddyddion Llai Grŵp trosglwyddydd Llanddona:
| Amlwch |
Arfon |
Bethesda |
Bethesda North |
| Betws y Coed |
Caergybi |
Caernarfon |
Cemaes |
| Coed Derw |
Conway |
Deiniolen |
Dolwyddelan |
| Ffestiniog |
Gronant |
Llandecwyn |
Llanengan |
| Maentwrog |
Mochdre |
Morfa Nefyn |
Prestatyn |
| Trefor B |
Waunfawr |