Gwybodaeth i breswylwyr
Bydd trosglwyddydd Carmel a’i 19 trosglwyddydd llai (a elwir yn grŵp trosglwyddydd) yn newid i ddigidol mewn dau gam. Os ydych yn cael gwasanaeth Sky TV, Freesat from Sky neu freesat ar eich holl setiau teledu, ni fydd y newid yn effeithio arnoch.
Ond, os ydych wedi newid i ddigidol trwy fanteisio ar wasanaeth Freeview, BT Vision neu Top Up TV, bydd angen i chi gofio dau ddyddiad, a bydd angen i chi fod yn barod cyn dyddiad cyntaf y newid.
Dau ddyddiad i’w cofio
Bydd BBC Two yn newid i ddigidol a bydd rhai sianelau digidol newydd ar
gael. Bydd hyn yn golygu:
- Os na fyddwch wedi newid, byddwch yn colli BBC Two
- Os oes gennych Freeview, TB Vision neu Top UP TV, bydd angen i
chi aildiwnio’ch offer
Bydd y sianelau analog sydd ar ôl yn newid i ddigidol a bydd y sianelau
digidol sy’n weddill ar gael. Bydd hyn yn golygu:
- Os na fyddwch wedi newid i ddigidol, byddwch yn colli eich
gwasanaeth teledu
- Os oes gennych Freeview, TB Vision neu Top UP TV, bydd angen i
chi aildiwnio’ch offer unwaith eto
Beth fydd yn digwydd rhwng dau ddyddiad y newid i ddigidol?
Os oes gennych Freeview, TB Vision neu Top-up TV am y tro cyntaf, bydd angen i chi newid rhwng analog a digidol er mwyn gwylio ystod lawn y sianelau sydd ar gael rhwng dau dyddiad y newid i ddigidol. Cliciwch yma os hoffech weld sut i wneud hyn.
Trosglwyddyddion Llai Grŵp trosglwyddydd Carmel:
| Abercraf |
Brechfa |
Bronwydd Arms |
Builth Wells |
| Cilycwm |
Cwm Twrch |
Cwmgors |
Erwood |
| Greenhill |
Llandrindod Wells |
Llanelli |
Llansawel |
| Llanwrtyd Wells |
Mynydd Emroch |
Penderyn |
Rhayader |
| Talley |
Tenby |
Ystalyfera |