Bydd proses y newid i ddigidol yn digwydd rhwng 2008 a 2012, fesul rhanbarth teledu.

Mae’r newid yn broses gymhleth ac mae angen ei gwneud fesul cam er mwyn sicrhau bod pawb yn y wlad yn barod amdani.

Y ffordd orau o weld pa ranbarth teledu yr ydych ynddo yw trwy edrych pa wasanaeth newyddion ITV yr ydych yn ei gael neu droi at wasanaeth Teletext, tudalen 106.

Rhanbarth Dyddiadau cychwyn y newid
Border 2008
West Country, Cymru, Granada 2009
West, Grampian, Scottish 2010
Central, Yorkshire, Anglia 2011
Meridian, London, Tyne Tees, Ulster 2012
Ynysoedd y Sianel* 2013

Peidiwch gofidio; byddwch yn cael digon o rybudd cyn bydd y gwasanaethau yn eich ardal yn cael eu heffeithio, a digon o gyngor ynghylch yr hyn i’w wneud.

*Mae Ynysoedd y Sianel yn rhan o rwydwaith darlledu y DU ac yn cael gwasanaethau analog y DU. Ar hyn o bryd, nid ydynt yn cael gwasanaethau daearol digidol oherwydd diffyg amleddau sydd ar gael.

Nid yw Ynysoedd y Sianel yn rhan ffurfiol o gynllun newid i ddigidol y DU ac mae Llywodraethau Gwladwriaeth Guernsey a Gwladwriaeth Jersey yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ynghylch amseru a’r strategaeth ar gyfer y newid i ddigidol. Ceir cyswllt agos rhyngddyn nhw a Digital UK ac maent yn gweithio gydag Ofcom, Llywodraeth y DU a’r awdurdodau yn Ffrainc i gytuno ar amserlen ar gyfer newid y rhwydwaith analog presennol yn rhwydwaith teledu digidol.

Mae'r map hwn yn rhoi mwy o wybodaeth ynglyn a phryd y bydd teledu'n dechrau mynd yn gwbl ddigidol ym mhob rhanbarth.  Sylwer: bydd rhai rhanbarthau yn cwblhau'r broses yn y flwyddyn galendr sy'n dilyn. 

Map o’r adeg pan fydd rhanbarthau yn newid i deledu digidol

Section navigation

A oes modd i mi gael teledu Digidol?

Eich cod post

Nodwch eich cod post i weld pa wasanaethau digidol sydd ar gael yn eich ardal ar hyn o bryd

Why do you need this?