Gan gychwyn yn 2008 a gorffen yn 2012, bydd gwasanaethau teledu yn y DU yn mynd yn hollol ddigidol, fesul rhanbarth teledu. Gelwir y broses hon y newid i ddigidol. Bydd hen signal teledu y DU (a elwir y signal “analog”) yn cael ei ddiffodd a’i ddisodli gan signal “digidol”. Ni fydd unrhyw set deledu neu beiriant fideo na fydd yn cael eu trosi i ddigidol pan fydd y newid yn digwydd, yn gallu cael rhaglenni teledu mwyach.

Beth yw manteision teledu digidol?

O’i gymharu â theledu traddodiadol, mae’n cynnig nifer o ffyrdd newydd o fwynhau eich set deledu:

  • Sianelau teledu ychwanegol safonol
  • Sianelau tanysgrifio
  • Ansawdd gwell
  • Nodweddion newydd
  • Gwasanaethau arbennig

Sut mae'n gweithio?

Gyd theledu digidol, mae sain a lluniau o’r darlledwr yn cael eu trosi yn ‘fitiau’ o wybodaeth a’u hanfon trwy erial, lloeren, llinell ffôn neu gebl. Yna, caiff y signal digidol hwn ei drosi’n ôl yn lluniau a sain gan focs digidol neu set deledu ddigidol.

Pam ein bod yn newid i deledu digidol?

Section navigation

A oes modd i mi gael teledu Digidol?

Eich cod post

Nodwch eich cod post i weld pa wasanaethau digidol sydd ar gael yn eich ardal ar hyn o bryd

Why do you need this?