Digital UK Limited o 22 Percy Street, Llundain, W1T 2BU) ("Digital UK", “Ni” neu “Ein”) yw gweithredwr y wefan hon (y “Wefan”), y gellir gweld ei thudalen gartref yn www.digitaluk.co.uk. Mae’ch cyfle i fanteisio ar y Wefan a’ch defnydd ohoni yn rhwym i’r Amodau a Thelerau hyn (“Amodau Defnyddio y Wefan”), y Polisi Preifatrwydd sy’n rhan o’r Amodau Defnyddio y Wefan hyn, a’r holl gyfreithiau perthnasol. Mae’ch defnydd o’r Wefan yn golygu eich cytundeb diamod i dderbyn a chydymffurfio â’r Amodau Defnyddio y Wefan hyn.
A. Amodau Defnyddio
Hawliau Eiddo Deallusol
- Ac eithrio’r hyn a nodir fel arall ar y Wefan, Digital UK a/neu ei drwyddedwyr yw perchennog hawlfraint yr holl gynnwys ar y Wefan hon a’r holl hawliau eiddo deallusol cysylltiedig, gan gynnwys ond heb eu cyfyngu i’r holl hawliau cronfa ddata, nodau masnach anghofrestredig a chofrestredig, nodau gwasanaeth a logos. Ni ellir dirprwyo nac adlewyrchu’r Wefan hon heb gael caniatâd ysgrifenedig Digital UK yn gyntaf.
- Mae Digital UK yn arddel ei hawliau i gael ei nodi fel awdur ei waith hawlfraint ar y Wefan hon ac i wrthwynebu pan fo gwaith o’r fath yn cael ei gamddefnyddio mewn unrhyw ffordd. Nid ydym yn gwarantu nac yn honni na fydd eich defnydd o’r deunyddiau a ddangosir ar y Wefan yn tresmasu ar hawliau trydydd partïon.
- Ni chewch gopïo, addasu, lawrlwytho, manteisio ar neu fel arall ddefnyddio’r wybodaeth ar y Wefan hon mewn unrhyw ffordd, ac eithrio er mwyn gwneud ymholiadau ynghylch neu ofyn am wybodaeth sy’n ymwneud â’r gwasanaethau a nodir ar y Wefan; neu lawrlwytho a storio un neu fwy o’r tudalennau ar y Wefan dros dro er mwyn eu gweld at ddefnydd personol yn unig, ar derfynnell neu gyfrifiadur personol. Er mwy osgoi unrhyw amheuaeth, ni chewch atgynhyrchu, storio’n barhaol, neu aildrosglwyddo unrhyw gynnwys o’r Wefan heb gael ein caniatâd ysgrifenedig Ni yn gyntaf.
Nodau masnach, Logos a Nod Gwasanaeth
- Mae’r nodau masnach, y logos a’r nodau gwasanaeth (y “Nodau Masnach” gyda’i gilydd) a ddangosir ar y Wefan hon (os ydynt yn gofrestredig neu’n anghofrestredig) yn eiddo ac yn parhau i fod yn eiddo i’w perchenogion priodol. Ni fydd modd dehongli unrhyw beth yn y Wefan fel rhywbeth sy’n rhoi trwydded neu hawl i ddefnyddio unrhyw Nod Masnach a ddangosir ar y Wefan heb ganiatâd ysgrifenedig perchennog perthnasol y Nod Masnach. Fe’ch gwaharddir yn gyfan gwbl rhag camddefnyddio neu dresmasu ar unrhyw Nodau Masnach a ddangosir ar y Wefan.
Gwarantau ac Ymwrthodiadau
- Cynigir y Wefan hon fel gwasanaeth gwybodaeth am ddim i chi ac fe’i cyfeiriwyd at y rhai sy’n troi at y Wefan o dir mawr y Deyrnas Unedig yn unig.
- Er ein bod Ni yn gwneud pob ymdrech resymol i gynnwys gwybodaeth fanwl a’r wybodaeth ddiweddaraf ar y Wefan, gall camgymeriadau ddigwydd. Darperir cynnwys y Wefan “fel ag y mae” ac “fel ag y mae ar gael” yn unig. I’r graddau llawn a ganiateir gan y gyfraith, nid yw SwitchCo yn derbyn unrhyw atebolrwydd am gynnwys y Wefan, ac mae’r holl warantau ymhlyg gan gynnwys, ond heb eu cyfyngu, ansawdd boddhaol, addasrwydd i ddiben penodol, peidio â thorri amodau, cysondeb, diogelwch a chywirdeb yn cael eu heithrio o’r Amodau Defnyddio y Wefan hyn. Ni allwn roi unrhyw warant neu gyflwyniad ynghylch cywirdeb y wybodaeth ac nid ydym yn gyfrifol am gamgymeriadau neu wybodaeth na chynhwysir neu am unrhyw gamau gweithredu neu benderfyniadau a seiliwyd ar y wybodaeth. Ymhellach, nid yw Digital UK yn gwarantu y bydd y Wefan ar gael yn ddi-dor neu heb gamgymeriadau neu y bydd unrhyw ddiffygion yn cael eu cywiro.
- Mae’ch defnydd o’r Wefan yn rhad ac am ddim ac ar eich menter eich hun. Mae natur y wybodaeth a’r deunyddiau a ddarperir ar y Wefan yn gyffredinol yn unig ac ni ellir ystyried eu bod yn cyfateb â chyngor neu argymhellion (proffesiynol neu fel arall). Ac eithrio fel ag y nodwyd fel arall yn yr Amodau Defnyddio y Wefan hyn ac i'r graddau llawn a ganiateir gan y gyfraith, nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd dros unrhyw golledion uniongyrchol, anuniongyrchol, arbennig neu ganlyniadol o ba natur bynnag sy’n codi, gan gynnwys ond heb ei gyfyngu i golli elw, arbedion disgwyliedig, refeniw, data, ewyllys da neu gontractau sy’n deillio o gontract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod) neu ba achos bynnag.
- Nid oes unrhyw beth yn yr Amodau Defnyddio y Wefan hyn yn eithrio ein hatebolrwydd Ni am farwolaeth neu anaf personol sy’n deillio o'n esgeulustod Ni neu o ran camgyflead twyllodrus.
Firysau
- Er ein bod Ni yn ceisio sicrhau bod gennym y feddalwedd gwrth-firws ddiweddaraf, nid ydym Ni yn gwarantu bod y Wefan , ei gweinyddion, ei ffeiliau y gellir lawrlwytho neu negeseuon e-bost a anfonir gennym Ni, yn rhydd o firysau neu unrhyw gydrannau niweidiol eraill.
- Ni ddylech:
- gyflwyno neu geisio cyflwyno unrhyw firws neu ddifwyniad arall i’r wefan neu unrhyw un o’i systemau neu feddalwedd; neu
- mewn unrhyw ffordd, ceisio troi at, addasu, dadgrynhoi, gwrthdroi gwaith dyfeisio, dinistrio neu ymyrryd fel arall ag unrhyw ran o’r Wefan, ei meddalwedd neu ei system
Hypergysylltiadau
- Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros wefannau allanol ac nid yw cyswllt â gwefan arall o reidrwydd yn ymhlygu cymeradwyaeth. Mae cysylltau hyperdestun yn gysylltau sy’n galluogi ymwelwyr i symud o un gwefan i wefan arall neu o un dudalen i dudalen arall yn yr un wefan. Cysylltau dwfn yw cysylltau hyperdestun sy’n tywys ymwelwyr i dudalen benodol ar wefan gan osgoi tudalen gartref y wefan honno. Mae’r Wefan yn cynnwys cysylltau hyperdestun i wefannau trydydd partïon. Darperir unrhyw gysylltau hyperdestun a chysylltau dwfn rhwng ein Gwefan Ni ac unrhyw wefan trydydd parti er hwylustod i chi ac nid ydym Ni yn derbyn unrhyw fath o atebolrwydd dros gynnwys gwefan unrhyw drydydd parti o’r fath. Rydym yn eithrio, i’r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith, yr holl atebolrwydd a allai godi mewn cysylltiad â neu o ganlyniad i ddeunydd gwefan trydydd parti yn achosi unrhyw ddifrod, costau, anaf neu golled o unrhyw fath. Pan fyddwch yn cysylltu â gwefan trydydd parti, sylwer na fydd darpariaethau ein Polisi Preifatrwydd Ni yn berthnasol i unrhyw ddata personol y bydd gweithredwr y wefan honno yn ei chasglu a’i phrosesu.
- Dylai unrhyw gysylltau â’r Wefan fod i’r dudalen gartref ac ni anogir cysylltau dwfn oherwydd y gallai cysylltau newid. Rydym yn monitro cysylltau â thudalennau ar y Wefan hon nad ydynt yn bodoli mwyach a byddwn yn ceisio sicrhau cyn lleied o aflonyddwch ag y bo modd, ond ni allwn Ni warantu y bydd cysylltau dwfn yn cael eu cynnal.
Indemniad
- Rydych yn cytuno indemnio a pharhau i’n hindemnio Ni, ein swyddogion, ein cyfarwyddwyr, ein hasiantau, ein trwyddedwyr, ein holynwyr a’n haseinïaid Ni yn erbyn pob atebolrwydd, cais, colled, cost, iawndal a threuliau gan gynnwys ffioedd cyfreithiol y byddwn Ni yn eu hwynebu os byddwch yn torri unrhyw rai o’r Amodau Defnyddio y Wefan hyn. Rydym yn cadw’r hawl i amddiffyn a rheoli unrhyw fater sy’n destun indemniad gennych ac mewn achos o’r fath, rydych yn cytuno cydweithredu’n llawn gyda’n hamddiffyniad Ni o unrhyw honiad o’r fath.
Diogelu Data
- Efallai y bydd angen gwybodaeth sylfaenol arnom sy’n eich nodi chi fel unigolyn, (“Gwybodaeth Bersonol”), fel eich enw a’ch cyfeiriad e-bost, er mwyn eich galluogi i fanteisio ar wasanaethau penodol a gynigir gennym Ni. Dim ond er mwyn darparu gwybodaeth neu wasanaethau yr ydych wedi gofyn amdanynt, neu at ddibenion cysylltiedig eraill fel y nodir yn y Polisi Preifatrwydd, y byddwn yn defnyddio gwybodaeth bersonol o’r fath.
Cyffredinol
- Dylid cyflwyno unrhyw ymholiadau, adborth neu sylwadau sydd gennych am y Wefan yn ysgrifenedig atom Ni yn Digital UK Limited, Met Building, 22 Percy Street, Llundain, W1T 2BU. Os ydych yn adrodd camgymeriad, dylech ddweud wrthym Ni pa system weithredu gyfrifiadurol a phorwr (gan gynnwys y fersiwn) yr ydych yn ei ddefnyddio a’r amser a’r dyddiad yn fras pan wnaethoch ddarganfod y broblem.
- Efallai y byddwn yn diwygio’r Amodau Defnyddio y Wefan hyn o bryd i’w gilydd. Os byddwn yn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol, byddwn Ni yn eich hysbysu trwy gynnwys hysbysiad ar y Wefan. Rydych yn rhwym i unrhyw newidiadau yr ydym Ni yn eu gwneud i’r Amodau Defnyddio y Wefan hyn. Gallwch weld fersiwn presennol yr Amodau Defnyddio y Wefan hyn ar unrhyw adeg trwy glicio ar gyswllt yr Amodau Defnyddio y Wefan, ar dudalen gartref y Wefan.
- Mae’r penawdau yn yr Amodau Defnyddio y Wefan hyn er hwylustod ac ni fyddant yn effeithio ar ystyron yr Amodau Defnyddio y Wefan hyn.
- Os na fydd modd gorfodi unrhyw rai o’r Amodau Defnyddio y Wefan hyn, ni fydd hyn yn effeithio ar y gallu i orfodi’r gweddill.
- Bydd yr Amodau Defnyddio y Wefan hyn yn cael eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â chyfraith Lloegr a byddant yn rhwym i awdurdodaeth dethol Llysoedd Lloegr.
- Os bydd unrhyw wrthdaro neu anghysondeb rhwng fersiwn Saesneg a fersiwn Cymraeg yr Amodau Defnyddio y Wefan hyn, fersiwn Saesneg yr Amodau Defnyddio y Wefan fydd yn trechu.
Logo
- Mae logo y newid i ddigidol yn nod ardystio.












