Mae Digital UK Limited, gweithredwr y wefan hon (“Digital UK”, “Ni” neu “Ein”) yn parchu preifatrwydd pob unigolyn sy’n ymweld â’r wefan hon [www.digitaluk.co.uk] (y “Wefan”). Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn llywodraethu’r ffordd yr ydym Ni yn defnyddio ac yn datgelu unrhyw wybodaeth bersonol (y “Wybodaeth Bersonol”) yr ydych chi yn ei rhoi i Ni wrth ymweld â’r Wefan. Mae Gwybodaeth Bersonol yn cynnwys unrhyw wybodaeth sy’n eich nodi chi’n bersonol, fel eich enw, eich cyfeiriad neu’ch cyfeiriad e-bost.
Ac eithrio fel y nodir yn ein Polisi Preifatrwydd, ni fydd Digital UK yn datgelu, yn rhentu nac yn gwerth eich gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd parti nad yw’n gysylltiedig a Ni heb gael eich caniatâd yn gyntaf, ac eithrio pan fo hynny'n ofynnol dan y gyfraith.
A. Ein defnydd Ni o’ch Gwybodaeth Bersonol chi
Byddwn yn defnyddio’r Wybodaeth Bersonol y byddwn Ni yn ei chasglu gan ymwelwyr â’r Wefan yn y ffyrdd canlynol:
- i gynnal cyfrineiriau/manylion mewngofnodi defnyddwyr cofrestredig;
- i anfon gwybodaeth atoch yr ydym Ni yn teimlo y gallai fod o ddiddordeb i chi, ac i olrhain poblogrwydd ein gweithgareddau marchnata Ni yn gyffredinol;
- i’ch galluogi chi i ddefnyddio unrhyw wasanaethau y byddwn Ni yn eu darparu i chi o bryd i’w gilydd trwy’r Wefan hon;
- at ddibenion ymchwil cyffredinol, er mwyn ein galluogi Ni i roi gwybodaeth berthnasol i’r cyhoedd yn y DU am y newid i ddigidol;
- at ddibenion gweinyddu’r Wefan (gan gynnwys ein galluogi Ni i ymateb i unrhyw sylwadau am y Wefan neu adborth y byddwch yn ei rhoi i Ni efallai).
Casglu Gwybodaeth Bersonol
Gellir casglu eich Gwybodaeth Bersonol trwy’r Wefan mewn dwy ffordd:
- logiau gwe-weinydd; a
- nodi cyfeiriadau e-bost.
Logiau Gwe-weinydd
Pan fyddwch yn ymweld â’r Wefan hon, bydd ein gwe-weinydd Ni yn cofnodi’ch ymweliad. Bydd ein staff Ni yn dadansoddi’r wybodaeth hon mewn ffordd ystadegol er mwyn dangos tueddiadau yn arferion defnyddio y Wefan, fel poblogrwydd tudalennau penodol.Gallai’r logiau gynnwys unrhyw godau post a nodir yng nghyfleuster chwilio y Wefan.
Nid yw’r wybodaeth hon mewn logiau yn eich nodi chi yn bersonol. Nid yw’n nodi eich cyfeiriad e-bost. Gallai gynnwys cyfeiriad IP a/neu enw parth wedi’i gymhwyso’n llawn, y cyfrifiadur yr ydych yn ei ddefnyddio. Dylech fod yn ymwybodol y gallai’r wybodaeth hon nodi’r cwmni yr ydych yn gweithio iddo (os byddwch yn troi at y Wefan hon o’ch man gwaith), neu’ch Cyflenwr Gwasanaeth Rhyngrwyd.
Efallai y byddwn yn logio cliciau ar y cysylltau i wefannau eraill a gynhwysir ar ein Gwefan Ni. Mae hyn er mwyn ein helpu Ni i bennu poblogrwydd cysylltau o’r fath. Gan fod y broses hon o logio cysylltau wedi’i chynnwys ar ein gwe-logiau Ni, bydd yn cofnodi manylion y cyfrifiadur sy’n gwneud y cais, ond ni fydd yn eich adnabod chi yn bersonol.
Os byddwch yn troi at ein Gwefan Ni trwy wal dân caledwedd, gweinydd dirprwyol neu unrhyw fath arall o lwybrydd (fel cyswllt modem deialu wrth eich ISP), cyfeiriad y llwybrydd fydd yn ymddangos yn ein logiau Ni ac nid cyfeiriad eich cyfrifiadur.
E-bost
Pan fyddwch yn defnyddio’r Wefan, efallai y gofynnir i chi nodi eich cyfeiriad e-bost er mwyn defnyddio gwasanaeth a ddarperir gennym Ni. Dim ond yn unol ag amodau’r Polisi Preifatrwydd hwn y defnyddir y cyfeiriad e-bost hwn.Yn ogystal, bydd unrhyw ohebiaeth e-bost yn cael ei hystyried yn gyfrinachol rhyngoch chi a Ni. Ni fyddwn Ni, dan unrhyw amgylchiadau, yn trosglwyddo eich cyfeiriad e-bost ymlaen at drydydd partïon oni bai ein bod Ni wedi eich hysbysu yn flaenorol y byddwn Ni yn gwneud hynny.
C. Cwcis
Nid ydym yn defnyddio cwcis ar ein Gwefan Ni ar hyn o bryd.
D. Cofrestru
Mae Digital UK wedi cofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 1998 (fel y’i diwygiwyd).
E. Hypergysylltiadau i wefannau eraill
Mae’r Wefan hon yn cynnwys hypergysylltiadau i wefannau y mae trydydd partïon yn berchen arnynt ac yn eu gweithredu, Mae gan y gwefannau hyn eu polisïau preifatrwydd eu hunain ac rydym Ni yn eich annog i’w hadolygu. Byddant yn llywodraethu’r defnydd o Wybodaeth Bersonol a gyflwynir gennych wrth i chi ymweld â’r gwefannau hyn. Nid yw Digital UK yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd dros arferion preifatrwydd gwefannau trydydd parti o’r fath a byddwch yn defnyddio gwefannau o’r fath ar eich menter eich hun.
F. Eich hawl i weld eich Gwybodaeth Bersonol
Mae gennych yr hawl i ofyn am gopi o’r Wybodaeth Bersonol sydd gan Digital UK amdanoch chi ac i fynnu bod unrhyw gamgymeriadau yn y wybodaeth honno yn cael eu cywiro. Ni fyddwn yn codi tâl am geisiadau o’r fath. Dylech gyfeirio eich cais at Web Feedback, Digital UK Limited, Met Building, 22 Percy Street, Llundain W1T 2BU. Byddwn yn gwneud ymdrech resymol i ddarparu, cywiro neu ddileu Gwybodaeth Bersonol amdanoch chi yn ein ffeiliau Ni.
G. Newidiadau i’r Polisi Preifatrwydd hwn
O bryd i’w gilydd, efallai y byddwn Ni yn diweddaru’r Polisi Preifatrwydd hwn. Pan fyddwn Ni yn gwneud hynny, byddwn yn cyhoeddi’r newidiadau ar y Wefan hon. Os na fyddwch yn cytuno â’r newidiadau hyn, ni ddylech ddefnyddio’r Wefan hon mwyach.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y Polisi Preifatrwydd hwn, dylech ysgrifennu at Web Feedback, Digital UK Limited, Digital UK, Met Building, 22 Percy Street, Llundain W1T 2BU












