Dros y saith mlynedd nesaf, bydd Digital UK yn rhedeg ymgyrch farchnata gwerth miliynau o bunnoedd i helpu pawb ledled y DU i fod yn barod am ddigidol. Bydd Digital UK, gyda chymorth Digit Al, yn dweud wrth bawb i edrych am y logo pan fyddant yn ymweld â’u hadwerthwr neu gyflenwr lleol, er mwyn iddynt fod yn barod am ddigidol.

Mae cynllun y logo yn gyfle gwych i adwerthwyr roi hwb i’w ffigurau gwerthu. Bydd adwerthwyr sy’n ymrwymo iddo yn cael pecyn o ddeunyddiau marchnata, gan gynnwys taflenni, posteri, sticeri i’w rhoi ar ffenestri, cardiau cynnyrch a thaflenni gwybodaeth i staff.

Mae’r adran hon yn rhoi gwybodaeth ac adnoddau hanfodol i chi er mwyn eich helpu chi i helpu eich defnyddwyr trwy’r newid i ddigidol.

Deunydd i’w lawrlwytho

Cael Acrobat

Section navigation

A oes modd i mi gael teledu Digidol?

Eich cod post

Nodwch eich cod post i weld pa wasanaethau digidol sydd ar gael yn eich ardal ar hyn o bryd

Why do you need this?

Gwefannau defnyddiol