Dros y saith mlynedd nesaf, bydd Digital UK yn cynnal ymgyrch farchnata a fydd yn costio miliynau o bunnoedd er mwyn helpu pawb ar draws y DU i baratoi ar gyfer digidol. Bydd Digital UK, gyda help Digit Al, yn dweud wrth bawb i chwilio am y logo pan fyddant yn prynu neu’n rhentu offer teledu.
Os ydych yn cyflenwi neu’n cynhyrchu cynhyrchion teledu digidol ar gyfer y farchnad yn y DU, fe’ch cynghorir i sicrhau bod eich cynhyrchion yn cydymffurfio â’r meini prawf a gynhwysir yn y cytundeb trwydded offer digidol.












