Dros y saith mlynedd nesaf, bydd Digital UK yn cynnal ymgyrch farchnata a fydd yn costio miliynau o bunnoedd er mwyn helpu pawb ar draws y DU i baratoi ar gyfer digidol. Rhagwelir y bydd yr ymgyrch hon yn annog rhagor o ddefnyddwyr i geisio cyngor a chymorth proffesiynol gan osodwyr erialau a gosodwyr offer digidol.

Mae’r adran hon yn rhoi adnoddau a gwybodaeth hanfodol i’ch helpu chi i helpu’ch cwsmeriaid trwy’r newid i ddigidol.

Cynllun Gosodwyr Digidol Cofrestredig

Yn gynyddol, bydd Digital UK yn cynghori defnyddwyr i fanteisio ar wasanaeth gosodwyr erialau sy’n Osodwyr Digidol Cofrestredig (RDI). Dan gynllun RDI, dyfarnir marc ardystio y “tic digidol” i osodwyr os byddant yn sicrhau CGC Lefel 2 mewn gwasanaethu trydanol ac electronig, os byddant yn datgelu cofnodion troseddol ac yn sicrhau yswiriant atebolrwydd cyhoeddus. Mae CGC Lefel 3 mewn systemau derbyniad ar gael hefyd.

Os hoffech wybodaeth bellach ynghylch ymgeisio am gynllun RDI, cysylltwch â Samantha Reed ar 01246 252 887 neu sam@peter-r.com.

Section navigation

A oes modd i mi gael teledu Digidol?

Eich cod post

Nodwch eich cod post i weld pa wasanaethau digidol sydd ar gael yn eich ardal ar hyn o bryd

Why do you need this?

Gwefannau defnyddiol