Croeso i’n hadran sy’n rhoi cymorth i’r diwydiant. Mae’r adran hon ar gyfer cynhyrchwyr, adwerthwyr, gosodwyr digidol, landlordiaid a chymdeithasau tai, ac mae’n cynnwys yr adnoddau a’r wybodaeth ddiweddaraf er mwyn eich helpu chi a’ch cwsmeriaid i baratoi am y newid i ddigidol.
Y newid i ddigidol yw’r newid mwyaf ym maes darlledu yn y DU ers cyflwyno teledu lliw, yn ôl ym 1967. Bydd yn rhaid i bob cartref yn y wlad addasu neu ddiweddaru eu holl setiau teledu er mwyn cael teledu digidol erbyn 2012.
Mae hon yn sialens fawr i’r diwydiant cyfan, ond yn un sy’n cynnig llawer o gyfleoedd. Mae gan dros 70% o gartrefi yn y DU deledu digidol ar o leiaf un set deledu yn barod. Fodd bynnag, amcangyfrifir y bydd angen addasu neu ddiweddaru 40 miliwn o setiau teledu i fod yn rhai digidol.
Logos y newid i ddigidol

O fis Mai 2006, bydd Digital UK yn annog siopwyr i gadw golwg am logo y "tic" digidol. Mae’n ardystio cynhyrchion a gwasanaethau a gynlluniwyd i weithio trwy broses y newid i ddigidol.
Bydd partneriaid hyrwyddo, adwerthwyr a chyflenwyr sy’n cadw cynhyrchion wedi’u hardystio ac sy’n meddu ar adnoddau gwybodaeth, yn defnyddio logo “get set for digital”.

Am ragor o fanylion, trowch at gwefan logo y Tic Digidol.












