- 08000 70 60 50
- www.wightcable.com
Pa offer fydd ei angen arnaf?
Bocs pen set digidol sydd wedi’i osod a’i gysylltu â llinell ffôn cebl.
Faint mae’n ei gostio?
Mae pecynnau teledu digidol yn costio o £4 y mis pan fyddwch yn tanysgrifio i linell ffôn.
Ai un cost a delir neu a fydd angen talu tanysgrifiad?
Tanysgrifiad - contract 18 mis o leiaf.
Sut mae’n cael ei osod?
Os yw ar gael yn eich ardal, gosodir cebl tanddaearol o’ch stryd i mewn i’ch cartref. Bydd hwn yn cario eich gwasanaethau ffôn a theledu. Yna, bydd technegydd yn gosod bocs digidol.
Pa sianelau a gwasanaethau safonol y byddaf yn eu cael?
BBC One, Two, Three, Four, BBC News 24, BBC Parliament, Bad Movies, Bid Up TV, CBBC, Cbeebies, Channel 4, Channel 5, Disney Channel, Disney Channel + 1, E4, E4 + 1, God TV, I Buy TV, ITV1, ITV2, ITV3, ITV4, Matinee Movies, Men and Motors, More 4, More4 + 1, Movies for Men, MTV Hits, Playhouse Disney, Price Drop TV, Quiz TV, QVC, Sky News, Sky One, Sky Sports News, Speed Auction TV, TMF (The Music Factory), True Movies, TV Travel Shop, TV Travel Shop 2, a 24 o sianelau radio.
Pa wasanaethau ychwanegol y mae WightCable yn eu cynnig?
Ystod o wasanaethau ffôn a band llydan. Mae pecynnau arbed arian arbennig yn cynnwys teledu digidol, rhent llinell band llydan a galwadau ffôn 24/7, gan gychwyn o £30.
Galwadau digyfyngiad 24/7: siarad drwy’r dydd, bob dydd neu bob nos gydag unrhyw rif lleol neu genedlaethol yn y DU. Ar gael am £15 y mis neu fel rhan o Becyn Arbed triphlyg.
A yw’r gwasanaeth ar gael?
Gwasanaethau i fusnesau a chwsmeriaid preswyl yng ngorllewin yr Alban, Irvine, Troon a Kilmarnock. Yn ogystal, mae ar gael yng ngogledd-orllewin Lloger, Carlisle, Lancaster a Morecambe.













