- 08700 543210
- www.topuptv.com
Beth yw TopUp TV?
Mae TopUp TV yn eich galluogi i ychwanegu rhaglenni o 11 o sianelau digidol poblogaidd i wasanaeth Freeview* trwy’ch erial.
Pa offer fydd ei angen arnaf?
Bydd angen bocs arnoch sy’n barod ar gyfer TopUp TV a cherdyn gwylio neu os oes gennych set deledu ddigidol, bydd angen CAM (slot cerdyn gwylio) a cherdyn gwylio arnoch.
Faint mae’n ei gostio?
£7.99 y mis a ffi gysylltu o £20.
Ai un cost a delir neu a fydd angen talu tanysgrifiad?
Tanysgrifiad ac un ffi gysylltu. Nid oes contract misol, byddwch yn talu fesul mis. (Bydd angen i chi gael yr offer Freeview a nodir uchod).
Sut mae’n cael ei osod?
Yn syml, byddwch yn rhoi cerdyn gwylio TopUp TV yn y slot yn eich bocs pen set ac yna, bydd angen i chi ffonio i gychwyn eich cerdyn. Dylai sianelau TopUp TV ddechrau o fewn yr awr.
Pa sianelau a gwasanaethau safonol y byddaf yn eu cael?
Mae TopUp TV yn cynnig rhaglenni o 11 o’r sianelau digidol mwyaf poblogaidd, a ddewiswyd i gyd-fynd â’r hyn sydd eisoes ar gael ar sianelau Freeview*. Mae'r rhain yn cynnwys UKTV Gold, British Eurosport, Cartoon Network, the Discovery Channel, UKTV Food, TCM, Boomerang, UKTV Style, Discovery Real Time, Toonami a Bloomberg.
A yw’r gwasanaeth ar gael?
Mae gwasanaeth TopUp TV ar gael i holl gwsmeriaid Freeview* trwy’ch erial o fewn ardal gwasanaeth Freeview*. Os ydych yn cael Freeview trwy set deledu ddigidol, bydd angen i’ch set deledu gynnwys slot cerdyn gwylio CAM.
Amodau a thelerau:
Ceir Amodau a Thelerau. Taliad cychwynnol arferol o £27.99 a bilio ymlaen llaw. Nid yw sianelau a ddarlledir ar amseroedd penodol TopUp TV ar gael 24 awr y dydd – trowch at TopUp TV am amseroedd sianelau.
Bydd angen bocs pen set sy’n cyd-fynd â TopUp TV neu set deledu ddigidol CAM i gael y gwasanaeth. Mae’n ddibynnol ar y gallu i dderbyn y gwasanaeth. *Mae Freeview yn wasanaeth digidol am ddim ar wahân sy’n cynnig dros 30 o sianelau digidol am ddim, nad yw’n cael ei weithredu gan TopUp TV.
Mae amodau a thelerau ychwanegol yn berthnasol. Am fanylion llawn, trowch at TopUp TV.













