Beth yw Telewest?

Mae Telewest yn darparu gwasanaethau teledu digidol, band llydan a ffôn. Nid oes angen dysgl na llinell ffôn ychwanegol gan bod holl wasanaethau Telewest yn cael eu darparu trwy ei rwydwaith cebl ei hun a bocs digidol.

Pa offer fydd ei angen arnaf?

Bydd peiriannydd yn gosod bocs digidol a chyswllt cebl ar eich cyfer.

Faint fydd yn ei gostio?

Mae pecynnau teledu digidol gan Telewest yn costio rhwng £5.50 a £17.50 pan fyddwch yn cymryd llinell ffôn am £10.50.

Ai un cost a delir neu a fydd angen talu tanysgrifiad?

Tanysgrifiad. Contract misol 12 mis o leiaf.

Sut mae’n cael ei osod?

Bydd peiriannydd yn dod allan i’w osod i chi.

Pa sianelau a gwasanaethau safonol y byddaf yn eu cael?

  • Ystod eang o sianelau o ansawdd ym mhob pecyn.
  • Llyfrgell deledu a ffilmiau fawr y gallwch fanteisio arni pryd bynnag y byddwch yn dymuno gwneud hynny.
  • Bydd Telewest yn gofalu am unrhyw offer ac yn ei drwsio heb godi unrhyw dâl ychwanegol.
  • Rheolaeth i rieni.

Pa wasanaethau ychwanegol y mae Telewest yn eu cynnig am gost ychwanegol?

Recordio digidol: recordio dwy raglen ar yr un pryd a recordio hyd at 80 awr o raglenni gyda TVDrive, peiriant recordio digidol Telwest sy’n eich galluogi i rewi ac ailddirwyn teledu byw.

Diffiniad uchel: os byddwch yn tanysgrifio i TVDrive, byddwch yn gallu manteisio ar raglenni diffiniad uchel yn awtomatig heb orfod talu cost ychwanegol.

Sky Sports a movies: mae Sky Sports a Sky movies ar gael i’w hychwanegu at eich tanysgrifiad.

Teledu Telewest o gwmpas eich cartref: gwylio teledu Telewest mewn gwahanol ystafelloedd yn y cartref o £5 y mis.

A yw’r gwasanaeth ar gael?

Nodwch eich cod post yn archwiliwr cod post Digital UK neu trowch at wefan Telewest.

Section navigation

A oes modd i mi gael teledu Digidol?

Eich cod post

Nodwch eich cod post i weld pa wasanaethau digidol sydd ar gael yn eich ardal ar hyn o bryd

Why do you need this?