- 08702 42 42 42
- www.sky.com
Beth yw Sky digital?
Mae Sky digital yn cynnig y cyfle i fanteisio ar dros 200 o sianelau tanysgrifio ac 120 o sianelau teledu digidol am ddim ac 80 o sianelau radio.
Pa offer fydd ei angen arnaf?
Bocs digidol Sky a dysgl fach (a ddarperir yn rhad ac am ddim gyda thanysgrifiad). Mae gwaith gosod safonol am ddim hefyd.
Faint mae’n ei gostio?
Mae pecynnau sianelau Sky yn amrywio o £15 i £42.50 y mis. Gallwch newid pecyn eich sianel ar unrhyw adeg, er bod angen rhoi mis o rybudd.
Ai un cost a delir neu a fydd angen talu tanysgrifiad?
Tanysgrifiad. Bydd angen ymrwymo i gontract 12 mis o leiaf.
Sut mae’n cael ei osod?
Caiff ei osod a’i baratoi ar eich cyfer mewn ffordd broffesiynol gan un o beirianwyr Sky. Yna, chi sy’n berchen ar yr offer.
Pa sianelau a gwasanaethau y byddaf yn eu cael?
Mae Sky digital yn rhoi’r cyfle i chi fanteisio ar y prif sianelau tanysgrifio yn ogystal â 120 o sianelau teledu digidol am ddim (mae’r rhain yn cynnwys ffefrynnau daearol fel BBC One, BBC Two, S4C Digidol, ITV1, Channel 4, Five) ac 80 o sianelau radio.
Plus (mae rhai sianelau ar gael gyda’r pecynnau misol drytach yn unig):
- Sky Movies: Deg sianel ffilmiau sy’n dangos dros 450 o wahanol ffilmiau yr wythnos heb unrhyw egwyl hysbysebion.
- Sky Sports: Ystod ehangaf y rhaglenni chwaraeon yn y DU gan amrywio o bysgota a snwcer i griced.
- Amrywiaeth: Rhai o'r rhaglenni drama, y rhaglenni clasurol a’r rhaglenni comedi gorau o’r DU.
- Arddull a Diwylliant: Rhaglenni am fwyd a ffasiwn, teithio a garddio.
- Newyddion: Y newyddion diweddaraf o bob cwr o’r byd, gan gynnwys busnes, gwleidyddiaeth, chwaraeon a mwy.
- Gwybodaeth: Rhaglenni dogfen.
- Cerddoriaeth: Cynigir bron pob math o gerddoriaeth gyda dros 90 o sianelau a gorsafoedd radio digidol.
- Plant: Rhaglenni addysgiadol ac adloniant i blant o bob oedran.
Gwasanaethau sydd ar gael am dâl ychwanegol:
- Sky+: Peiriant recordio teledu a derbynnydd digidol yn un. Mae Sky+ yn eich galluogi i recordio 40 awr raglenni ar gyfartaledd trwy bwyso botwm, ac ni fydd angen tapiau nac amseryddion.
- Sky HD: Teledu diffiniad uchel, sy’n cynnig lluniau mwy clir, eglur a byw ac ansawdd sain gwell ar raglenni dethol.
- Multi-room: Y gallu i wylio Sky TV mewn gwahanol ystafelloedd yn eich cartref..
- Manteision eraill: Cymorth i gwsmeriaid, teledu rhyngweithiol, rhestrau rhaglenni saith diwrnod, ymlaen llaw ar y sgrîn, rheolaeth i rieni, cylchgrawn misol i gwsmeriaid.
A yw’r gwasanaeth ar gael?
Mae Sky digital ar gael yn 98% o’r DU, gan roi derbyniad digidol dibynadwy i chi.
Amodau a thelerau:
Cynnig bocs Sky am ddim: Nid oes yn rhaid i chi danysgrifio i Sky digital. Rhaid i chi ymrwymo i Gontract Gostyngiad Rhyngweithiol (IDC). Cyfyngir ar y cynnig i un fesul cartref. Nid ydych yn gymwys os ydych wedi ymrwymo i IDC neu os yw’ch cartref wedi manteisio ar un neu os ydych wedi ymrwymo i gynnig offer fesul mis gan Sky TV. Bydd Sky yn dewis eich offer.
Gosod: Pan fyddwch yn tanysgrifio i unrhyw becyn Sky digital, ni chodir tâl am y gwaith safonol i osod eich bocs Sky am ddim, neu, codir £120 os na fyddwch yn tanysgrifio. Codir costau ychwanegol am waith gosod nad yw’n waith safonol.
Tanysgrifiad Sky digital: Rhaid i’ch bocs Sky am ddim gael ei gysylltu â llinell ffôn sefydlog am 12 mis. Rhaid i chi gael unrhyw ganiatâd angenrheidiol (ee landlord). Bydd y contract tanysgrifio lleiaf i Sky digital yn gontract 12 mis.
Cyffredinol: Rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn. Gall y prisiau, y sianelau/rhaglenni newid. Bydd amodau pellach yn berthnasol. Bydd y wybodaeth yn berthnasol i gwsmeriaid preswyl sy’n byw yn y DU, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw yn unig.













