Beth yw ntl?

Mae ntl yn darparu gwasanaethau teledu digidol, band llydan a gwasanaethau ffôn. Nid oes angen lloeren na llinell ffôn ychwanegol gan bod holl wasanaethau ntl yn cael eu darparu trwy ei rwydwaith cebl a’i focs digidol ei hun.

Pa offer fydd ei angen arnaf?

Darperir yr holl offer cychwynnol, gan gynnwys y bocs digidol, yn rhad ac am ddim. Mae gwaith gosod cebl a bocs ar gael ac fe’i gwneir gan beirianwyr ntl.

Faint mae’n ei gostio?

Mae pecynnau teledu digidol ntl yn costio rhwng £5.50 ac £19.50, ond bydd angen i chi gymryd llinell ffôn am £10.50 y mis.

Ai un cost a delir neu a fydd angen talu tanysgrifiad?

Tanysgrifiad. Bydd angen ymrwymo i gontract 12 mis o leiaf.

Sut mae’n cael ei osod?

Bydd peiriannydd yn dod allan i’w osod i chi.

Pa sianelau a gwasanaethau safonol y byddaf yn eu cael?

  • Ceir ystod eang o sianelau o ansawdd ym mhob pecyn.
  • Llyfrgell gerddoriaeth, ffilmiau a theledu fawr y gallwch fanteisio arni pryd bynnag y byddwch yn dymuno gwneud hynny. Nid yw’r math hwn o wasanaeth ar gael gyda Sky neu Freeview†.
  • Bydd ntl yn trwsio unrhyw offer heb godi unrhyw dâl ychwanegol os byddwch yn tanysgrifio.
  • Rheolaeth i rieni.

Pa wasanaethau ychwanegol y mae ntl yn eu cynnig yn y pecynnau drytach?

Sky Sports a Movies: gellir ychwanegu Sky Sports a Sky Movies i’ch pecyn tanysgrifio.

Teledu ntl o gwmpas eich cartref: gwylio teledu ntl mewn gwahanol ystafelloedd yn y tŷ o £15 y mis.

Band llydan: archwilio’r gorau ar y rhyngrwyd, ac mae cyflymder o hyd at 10MB ar gael.

Cynlluniau siarad dros y ffôn: mae ystod o gynlluniau siarad ar gael, gan gynnwys galwadau digyfyngiad yn y DU a chyfraddau galw ffonau symudol sy’n cynnig gwerth.

A yw’r gwasanaeth ar gael?

Dylech edrych i weld a yw’r gwasanaeth ar gael trwy droi at archwiliwr cod post Digital UK neu droi at wefan ntl.

Amodau a thelerau:

Mae gwasanaethau ntl ar gael mewn strydoedd sy’n cynnwys cebl ntl yn unig ac maent yn rhwym i allu’r rhwydwaith. Bydd angen ymrwymo i gontract 12 mis o leiaf. Ni yw rhai pecynnau teledu ntl digital yn cynnwys rhai gwasanaethau Teletext ar hyn o bryd.

Mae ntl yn parhau i fod yn berchen ar y bocs pen set; nid yw gwaith gwasanaethu a thrwsio am ddim yn cynnwys camddefnyddio/cam-drin. Mae’r pris ar gyfer cymryd taliad trwy gyfrwng Debyd Uniongyrchol. Codir taliadau gweinyddol ar gyfer dulliau talu eraill. Gallai prisiau ntl amrywio. Efallai y bydd angen gwneud taliad ymlaen llaw. Mae’r holl brisiau yn cynnwys TAW. Sylwer na fydd rhai sianelau ar gael yn eich ardal efallai. Am wybodaeth bellach am wasanaethau yn eich ardal, ffoniwch Gwasanaethau Cwsmeriaid.

Fel arfer, codir £75 am waith gosod safonol. Bydd y cynnig gosod am ddim yn dod i ben ar 06/12/06.

† mae ntl on demand ar gael i gwsmeriaid teledu digidol ntl mewn ardaloedd wedi’u galluogi yn unig. Bydd amodau a thelerau yn berthnasol. Trowch at ntl am fanylion pellach. Bydd amrywiadau rhanbarthol yn berthnasol. Ar ôl prynu, rhaid edrych ar yr holl gynnwys y codir tâl amdano cyn pen 24 awr.

Mae’r cyfle i fanteisio ar wasanaethau rhyngweithiol gan gynnwys gwefannau, gemau rhyngweithiol ac e-bost trwy’ch set deledu yn dibynnu ar yr hyn sydd ar gael yn eich ardal. Ni fydd modd manteisio ar rai gwefannau trwy droi at y rhyngrwyd trwy set deledu. Mae nodweddion ffôn a band llydan yn ddibynnol ar yr hyn sydd ar gael.

Gellir monitro neu recordio galwadau a wneir i ntl. Mae’r wybodaeth yn gywir ar 04/06. Mae ntl a logo ntl yn nodau masnach cofrestredig ntl Group Limited. ntl Group Limited, ntl House, Bartley Wood Business Park, Hook, Hampshire RG27 9UP. Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr 2591237.

Section navigation

A oes modd i mi gael teledu Digidol?

Eich cod post

Nodwch eich cod post i weld pa wasanaethau digidol sydd ar gael yn eich ardal ar hyn o bryd

Why do you need this?