- 0870 111 0384
- www.freeview.co.uk
Beth yw Freeview?
Mae Freeview yn wasanaeth teledu digidol am ddim sy’n cynnig dros 30 o sianelau teledu gan gynnwys S4C2, E4, ITV2, BBC Three, Sky News a CBeebies. Mae’n rhaid talu unwaith am yr offer, ond nid oes yn rhaid talu tanysgrifiad misol.
Pa offer fydd ei angen arnaf?
Yr unig beth y bydd ei angen arnoch yw bocs digidol a fydd yn gweithio gyda’ch set deledu bresennol. Neu, gallwch gael set deledu ddigidol sy’n cynnwys y bocs yn barod.
Faint mae’n ei gostio?
Mae bocsys digidol yn costio rhwng tua £40 a £200. Mae’r bocsys drytach yn cynnwys peiriant recordio teledu digidol er mwyn i chi allu gwylio un rhaglen wrth recordio un arall. Mae setiau teledu digidol yn costio rhwng tua £300 a £3,000.
Ai un cost a delir neu a fydd angen talu tanysgrifiad?
Un taliad ar gyfer y bocs digidol neu set deledu ddigidol.
Sut mae’n cael ei osod?
Gallwch gysylltu’r bocs digidol gyda’ch set deledu bresennol a’ch erial. Neu gallwch gysylltu’r teledu digidol gyda’r erial ar eich to. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen diweddaru’r erial, a ddylai gostio rhwng £80 ac £150. Trowch at CAI am restr o osodwyr erialau.
Pa sianelau a gwasanaethau safonol y byddaf yn eu cael?
Gyda Freeview, byddwch yn cael dros 30 o sianelau teledu digidol am ddim, dros 20 o wasanaethau radio digidol am ddim a llu o wasanaethau rhyngweithiol trwy bwyso botwm coch, a bydd ansawdd digidol i’r holl luniau a sain.
Gallwch wylio rhagolygon rhaglenni comedi a dramâu ar sianelau fel E4, More4 a BBC Three, yn ogystal ag ailddarllediadau operâu sebon a mwy o ddeunydd am raglenni dethol ar ITV2 ac ITV3. Ceir adloniant poblogaidd ar Sky Three gyda 24, sianelau arbennig i blant gyda CBeebies a Citv, yn ogystal â newyddion y byd 24 awr y dydd.
Gallwch weld y sgorau diweddaraf a’r prif straeon ym myd chwaraeon gyda Sky Sports News ac ITV4 hefyd, sy’n cynnig bocsio byw, pêl-droed o bencampwriaeth Champions League UEFA a'r Tour de France. Yn ogystal, bydd BBCi yn rhoi sylw rhyngweithiol ychwanegol i chi am y prif ddigwyddiadau chwaraeon fel Wimbledon, golff a Chwpan y Byd.
Gyda Freeview, gallwch chwarae gemau rhyngweithiol trwy’ch set deledu hefyd gyda sianelau fel Cbeebies.
Pa wasanaethau ychwanegol y mae Freeview yn eu cynnig?
Gyda’r rhan fwyaf o focsys digidol a setiau teledu digidol, gallwch gael gwybodaeth am raglenni wyth diwrnod ymlaen llaw, sy’n eich galluogi i reoli eich patrymau gwylio a gwylio teledu ar adeg sy’n gyfleus i chi.
Gyda pheiriant recordio teledu digidol tiwniwr deuol, gallwch recordio un sianel wrth wylio un arall, rhewi teledu byw a recordio eich hoff raglenni ar y peiriant recordio teledu digidol.
Testun digidol a gwasanaeth teledu gwell, gan gynnwys gwybodaeth am gefndir rhaglenni, ac mae deunydd byw ychwanegol ar gyfer digwyddiadau fel Wimbledon a’r Bencampwriaeth Golff Agored ar gael hefyd.
Yn ogystal, mae YooPlay yn sianel gemau teledu rhyngweithiol sy’n cynnwys gemau fel Power Pong, Dartiau a Tetris.
Mae gan nifer o focsys digidol a setiau teledu digidol gyfleuster cloi i rieni sy’n eich galluogi i reoli pa sianelau y gellir eu gwylio.
Amodau a thelerau:
Mae gwasanaeth Freeview yn ddibynnol ar leoliad y derbynnydd. Efallai y bydd angen diweddaru erial. Dylai hyn gostio rhwng £80 ac £150. Freeview™ a logo © DTV Services Ltd 2002.













