- 08706 06 11 11
- www.freesatfromsky.com
Beth yw Freesat from Sky?
Mae Freesat from Sky yn wasanaeth teledu digidol trwy ddysgl loeren a bocs digidol am un taliad. Mae Freesat from Sky yn eich galluogi i fanteisio ar 120 o sianelau teledu digidol ac 80 o sianelau radio digidol.
Pa offer fydd ei angen arnaf?
Bocs digidol, dysgl fach, cerdyn gwylio a theclyn llaw (caiff y rhain eu cynnwys yn y taliad unigol).
Faint mae’n ei gostio?
Un taliad o £150. Mae’n cynnwys offer a gwaith gosod safonol.
Ai un cost a delir neu a fydd angen talu tanysgrifiad?
Un taliad.
Sut mae’n cael ei osod?
Caiff ei osod a’i baratoi ar eich cyfer mewn ffordd broffesiynol gan un o beirianwyr Sky. Yna, chi sy’n berchen ar yr offer.
Pa sianelau a gwasanaethau safonol y byddaf yn eu cael?
Gyda freesat from Sky, byddwch yn gallu manteisio ar dros 120 o sianelau teledu digidol ac 80 o sianelau radio digidol.
- Adloniant: Gallwch wylio eich holl hoff raglenni daearol gan BBC One, BBC Two, S4C Digidol, ITV1, Channel 4 a Five, a sianelau ychwanegol gwych fel BBC Three, BBC Four, ITV2, ITV3, ITV4, Sky Three, Real Estate TV a llawer mwy.
- Newyddion: Gwasanaeth newyddion cenedlaethol a rhyngwladol gan Sky News, BBC News 24, CNN a mwy.
- Plant: Dewiswch o blith CBBC, POP a Tiny POP i ddifyrru’r plant.
- Rhaglenni dogfen a theithio: rhywbeth i bawb gyda Travel Channels 1 a 2, Classics TV, Overload a Reality TV.
- Chwaraeon: detholiad o chwaraeon arbenigol sy’n cynnwys golff i reslo, i chwaraeon eithafol.
- Ffordd o fyw: Sianelau sy’n cynnwys ffasiwn, gwin, eiddo neu arddull i gyd-fynd â’ch diddordebau.
Pa wasanaethau ychwanegol y mae freesat from Sky yn eu cynnig?
- Rheolaeth i rieni: Mae rheolaeth i rieni yn eich helpu i benderfynu pa raglenni sy’n cael eu gwylio yn eich cartref trwy gyfyngu’r cyfleoedd i wylio sianelau penodol naill ai yn gyfan gwbl neu ar ôl 8pm.
- Gwasanaethau rhyngweithiol: Ceir nifer o wasanaethau hawdd i’w defnyddio – gallwch chwarae gemau, anfon a derbyn negeseuon testun ac e-bost, rhoi bet, cael gwybodaeth leol neu siopa.*
- Uwchraddio i Sky digital yn hawdd (am gost misol ychwanegol): Gallwch uwchraddio i Sky digital unrhyw bryd trwy wneud un galwad ffôn heb i chi orfod newid eich offer, a byddwch yn gallu parhau i fanteisio ar yr holl sianelau Freesat from Sky.
*Efallai y bydd angen cysylltu â llinell ffôn i gael rhai gwasanaethau. Efallai y codir tâl am alwadau.
A yw’r gwasanaeth ar gael?
Mae Freesat from Sky ar gael yn 98% o’r DU.
Amodau a thelerau:
Mae’r llinellau ar agor rhwng 8.30am ac 11pm 7 diwrnod yr wythnos. Gwnewch yn siŵr bod eich cerdyn credyd/debyd wrth law yn barod i dalu. Mae’r galwadau yn costio hyd at 8 ceiniog y funud i gwsmeriaid BT. Gallai’r taliadau a godir gan ddarparwyr eraill amrywio.
Sianelau: Sianelau BBC sydd ar gael fel rhan o ffi’r drwydded. Mae Freesat from Sky yn cynnwys: bocs Sky, dysgl fach, cerdyn gwylio cychwynnol a gwaith gosod safonol. Gall gwylwyr droi at y sianelau hynny sydd ar gael ar y platfform lloeren digidol o bryd i’w gilydd. Ni all Sky warantu y bydd sianelau o’r fath ar gael ac ni all warantu eu cynnwys ychwaith. Mae’r rhan fwyaf o sianelau ar gael heb gerdyn gwylio. Sky sydd yn dewis eich offer.
Gosod: Bydd costau gosod nad ydynt yn rhai safonol yn ychwanegol. Rhaid i chi sicrhau unrhyw ganiatâd angenrheidiol (e.e. landlordiaid).
Cerdyn gwylio: At ddefnydd preswyl yn y DU, ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw yn unig. Darperir cardiau disodli yn rhad ac am ddim am 5 mlynedd, codir tâl fel arall. Cyffredinol: Rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn. Mae amodau pellach yn berthnasol.













