Os mai dim ond pum sianel deledu draddodiadol y DU (BBC One, BBC Two, ITV, S4C/Channel 4 a Five) yr ydych yn eu cael ar hyn o bryd – neu dim ond rhai ohonynt – ar unrhyw rai o’ch setiau teledu, bydd angen i chi ystyried eich dewisiadau er mwyn cael teledu digidol. Bydd angen trosi pob set deledu yr ydych yn dymuno parhau i’w gwylio yn eich cartref, neu eu diweddaru i fod yn rhai digidol.
Sut ddylwn baratoi ar gyfer digidol?
Yn gyntaf, bydd angen i chi ddewis sut ydych yn dymuno cael eich signal teledu:
- Trwy erial (naill ai trwy focs digidol neu set deledu ddigidol)
- Trwy ddysgl loeren
- Trwy gebl
- Trwy linell ffôn
- Trwy erial a llinell ffôn
Sut fyddaf yn gwybod yr hyn i’w brynu?
Ni fydd angen i chi ddisodli eich set deledu bresennol os nad ydych yn dymuno gwneud hynny, ond bydd angen i chi gael bocs digidol (trwy erial, dysgl loeren neu gebl).

Fodd bynnag, os ydych yn ystyried diweddaru eich set bresennol, dylech ystyried prynu set deledu sy’n cynnwys bocs digidol yn barod (“set deledu ddigidol”) a chadw golwg am logo y ‘tic’ digidol.
A pheidiwch anghofio eich peiriant fideo: Os ydych yn defnyddio peiriant fideo (VCR) neu DVD er mwyn recordio, bydd angen i chi ei addasu gan ddefnyddio bocs digidol, neu brynu peiriant recordio digidol yn ei le sy’n cynnwys bocs digidol, a elwir yn PVR weithiau.
Edrychwch am logo y ‘tic’ digidol sy’n ardystio cynhyrchion a gwasanaethau a gynlluniwyd i weithio ar ôl y newid.
Bydd siopau sy’n dangos ‘get set for digital’ yn cadw cynhyrchion wedi’u hardystio.
Cwestiynau a ofynnir yn Aml
- Faint fydd hyn yn ei gostio?
- A oes modd i mi gael unrhyw help?
- A oes unrhyw un yn gallu gosod yr offer newydd i mi?
- Sut fyddaf yn gwybod fy mod yn cael gwasanaeth safonol gan fasnachwyr?
- A fydd cynllun i helpu’r oedrannus neu eraill y mae angen help penodol arnynt?
- Troi at yr holl gwestiynau a ofynnir yn aml












