Cyflwyniad

Er mwyn sicrhau y gall pawb fanteisio ar y newid i ddigidol, bydd Cynllun Cymorth ar gael, a bydd oddeutu 7 miliwn o gartrefi yn gallu manteisio ar hwn.

Os ydych yn 75 oed neu’n hŷn neu os oes gennych anabledd sylweddol (rydych yn cael y Lwfans Gweini neu’r Lwfans Byw i’r Anabl), neu os ydych wedi’ch cofrestru fel unigolyn dall neu rannol ddall, byddwch yn cael cymorth arbennig.

Cysylltir â phawb sy’n gallu manteisio ar y cynllun ymhell cyn y newid i ddigidol yn eu rhanbarth gan roi manylion iddynt am y ffordd y mae’r cynllun yn gweithio a’r dewisiadau sydd ar gael o ran teledu digidol.

Help Scheme FAQs

  • Pa gymorth sydd ar gael?

    Bydd y Cynllun Cymorth yn rhoi cymorth ymarferol er mwyn helpu pobl i ddewis, gosod a defnyddio offer teledu digidol.  Yn ôl yr angen, gallai hyn gynnwys darparu erial ar ben set deledu neu ddiweddaru erial ar ben to.  Rhoddir offer i bob cartref cymwys i drosi un set deledu. 

     

    Back to top

  • Faint fydd hyn yn ei gostio?

    Bydd y ddarpariaeth hon yn rhad ac am ddim i’r cartrefi tlotaf sy’n gallu manteisio arno h.y.  y rhai sy’n cael Cymhorthdal Incwm, y Lwfans Ceisio Gwaith neu’r Credyd Pensiwn.  Disgwylir i gartrefi cymwys eraill dalu ffi gymharol fach.

    Back to top

  • Pa offer y byddaf yn ei gael?

    Bydd pob cartref cymwys yn cael dewis sylfaenol o ffyrdd o gael gwasanaethau teledu digidol, gan ddibynnu ar y darparwyr teledu digidol sydd ar gael yn eu rhanbarth.  Y dewis sylfaenol yw bocs digidol a fydd yn rhoi hyd at 40 o sianelau teledu i bob cartref.  Os bydd y rhai sy’n gymwys yn dymuno dewis offer neu wasanaethau teledu digidol eraill (e.e.  IDTVs neu beiriannau recordio digidol) byddant yn cael cyfraniad sy’n cyfateb â gwerth y dewis sylfaenol.

    Back to top

  • Pryd fydd pobl yn cael y cymorth?

    Rhagwelwn y bydd pobl yn gallu cael cymorth tua 8 mis cyn y byddant yn newid i ddigidol.

    Back to top

  • Beth mae angen i mi ei wneud?

    Dim byd. Cysylltir â chi ymhell cyn i’ch rhanbarth newid i ddigidol gyda manylion am sut y mae’r cynllun yn gweithio a’r dewisiadau digidol sydd ar gael yn eich rhanbarth.

    Back to top

  • A fydd y cynllun yn barod ar gyfer y newid yn ardal Whitehaven?

    Bydd, bydd pawb yn Whitehaven a’r cyffiniau yn cael y cymorth sydd ar gael iddynt.

    Back to top

  • Sut fyddwch yn sicrhau na fydd twyllwyr yn targedu pobl sy’n agored i niwed?

    Bydd pob gosodwr teledu digidol a gyflogir gan y cynllun yn cael eu hyfforddi a’u harchwilio yn gywir (gan gynnwys archwiliadau cofnodion troseddol) a byddant yn dangos y manylion adnabod priodol.  Gallwch fod yn dawel eich meddwl na fydd gosodwr digidol yn galw gyda chi yn eich cartref heb wneud apwyntiad yn gyntaf. 

    Rydym yn cydweithio'n agos gyda Help the Aged, Age Concern a grwpiau defnyddwyr eraill i ddatblygu'r trefniadau.  

     

    Back to top

  • Faint o bobl/cartrefi fydd yn cael cymorth?

    Rydym yn amcangyfrif y bydd oddeutu 7 miliwn o gartrefi yn y DU yn gallu cael cymorth gan Gynllun Cymorth y Newid i Ddigidol rhwng 2008 a 2012.

    Back to top

Section navigation

A oes modd i mi gael teledu Digidol?

Eich cod post

Nodwch eich cod post i weld pa wasanaethau digidol sydd ar gael yn eich ardal ar hyn o bryd

Why do you need this?