Er mwyn penderfynu sut yr hoffech dderbyn teledu digidol, bydd angen i chi ystyried nifer o bethau. Trowch at y rhestr a’r llun defnyddiol isod.

  1. Os yw’r derbyniad yn wael nawr, efallai y bydd angen i chi ystyried cael erial newydd.
  2. Efallai y bydd angen i rai cartrefi gael caniatâd cynllunio i osod offer digidol.
  3. Gall coed a bryniau effeithio ar ansawdd y signal. Os ydych yn derbyn signal analog da nawr, dylai’r erial fod yn iawn.
  4. Os oes gennych erial ar ben eich set deledu ac yn cael llun da nawr, dylai fod yn iawn ar ôl y newid i ddigidol.
  5. Os ydych yn dymuno recordio un sianel wrth wylio un arall, bydd angen i chi gael peiriant recordio teledu digidol.
  6. Ni fydd y newid i ddigidol yn effeithio ar eich radio.
  7. Bydd angen i chi drosi pob set deledu yr ydych yn gwylio rhaglenni teledu arnynt.

Section navigation

A oes modd i mi gael teledu Digidol?

Eich cod post

Nodwch eich cod post i weld pa wasanaethau digidol sydd ar gael yn eich ardal ar hyn o bryd

Why do you need this?