Nid oes yn rhaid i'r gwaith o baratoi ar gyfer y newid fod yn brofiad rhwystredig na dryslyd. Rydym wedi creu rhai cymhorthion defnyddiol ac wedi dod o hyd i rai gwefannau defnyddiol er mwyn eich helpu i baratoi ar gyfer digidol.
Dewin cysylltedd
I ddarganfod sut i gysylltu eich offer digidol gyda’ch set deledu, trowch at wefan Digital Television Group.
Help am offer sy’n barod ar gyfer digidol
Darganfyddwch pa gynhyrchion sy’n barod ar gyfer digidol.
Erialau
Os yw Freeview ar gael yn eich ardal, ond os na allwch gael derbyniad, yna efallai y bydd angen i chi ddiweddaru eich erial neu osod un newydd.
Am wybodaeth am eich erial bresennol neu osod un newydd, cysylltwch â gosodwr erialau dibynadwy. Gwnewch yn siŵr bod y gosodwr erialau yn aelod o CAI neu ei fod yn osodwr Digidol Cofrestredig.
Gallai’r gost o ddiweddaru erial amrywio gan ddibynnu lle’r ydych yn byw, ond dylai amrywio o £80 i £150. Dylai pwyntiau ychwanegol o gwmpas y cartref gostio rhwng £45 a £55. Mae rhai gosodwyr yn codi tâl dod allan ond yn aml, mae modd clirio hwn yn erbyn y gwaith a wneir.
Paratoi eich offer teledu digidol
- Dylech ddatgysylltu plwg eich set deledu o’r cyflenwad trydan ac ni ddylech droi’r bocs digidol ymlaen nes byddwch wedi cysylltu’ch holl offer.
- Nodwch y gwifrau, y plygiau a’r socedi amrywiol y bydd eu hangen arnoch.
- Ewch ati i blygio’r gwifrau erial a scart i mewn, gan ailgysylltu’r holl offer gyda’r prif gyflenwad trydan.
- Trowch eich set deledu ymlaen yn gyntaf, yna’r bocs digidol. Yna, ewch ati i diwnio’r sianelau digidol newydd.












