Cyn i chi siarad gyda’ch manwerthwr neu gyflenwr, mae’n werth ateb y cwestiynau hyn er mwyn i chi gael syniad o’r hyn y bydd ei angen arnoch efallai:
Sawl set deledu sydd yn y tŷ?
Bydd angen newid pob set i fod yn ddigidol.
A oes gennych set deledu du a gwyn?
I newid set deledu du a gwyn, bydd angen i chi gael bocs digidol sy’n cynnwys ‘Modylydd RF'.
Sawl soced scart sydd yng nghefn pob set deledu?
Mae’r bocs digidol yn cael ei blygio i mewn i soced scart ar eich set deledu. Os nad yw’n cynnwys soced scart, bydd angen i chi gael bocs digidol sy’n cynnwys ‘Modylydd RF’.
Faint o wifrau scart y bydd eu hangen arnoch?
Mae gwifren scart yn cysylltu bocs digidol (ac offer arall) gyda’ch set deledu. Bydd rhai bocsys digidol yn eu cynnwys – ni fydd rhai’n eu cynnwys. Fel arfer, bydd angen i chi gael un gwifren scart ar gyfer pob darn o offer a fydd yn cael ei gysylltu â’ch set deledu.
A ydych chi’n recordio un sianel wrth i chi wylio un arall?
Os ydych, bydd angen i chi gael peiriant recordio digidol. Dylech ystyried gofyn am beiriant recordio digidol gyda thiwniwr deuol os ydych yn dymuno ei ddefnyddio i newid eich set deledu ar yr un pryd.
A oes angen erial newydd arnoch?
Trowch at y dudalen profi erial i weld a oes angen diweddaru’ch erial.
Cofiwch edrych am y tic digidol pan fyddwch yn prynu unrhyw offer teledu newydd, mae’n golygu ei fod wedi cael ei gynllunio i weithio ar ôl y newid i ddigidol.












