- Pryd fydd y newid yn cychwyn yn rhanbarth West Country?
- Faint o amser fydd y newid yn ei gymryd yn rhanbarth West Country?
- Mae fy nerbyniad yn wael ar hyn o bryd. A fydd darllediadau digidol yn gwella fy signal?
- A fydd angen i mi gael erial newydd er mwyn cael darllediadau digidol?
- Rydw i'n cael fy narllediadau gan drosglwyddydd hunangymorth. A fyddaf yn cael signal daearol o hyd ar ôl y newid?
- Rydw i'n byw yn rhanbarth West Country ond rydw i’n cael gwasanaethau gan ranbarth arall (ee Cymru, HTV West, Meridian). A yw’r newid i ddigidol yn golygu y byddaf yn cael y gwasanaethau rhanbarthol cywir?
- Ni chefais daflen. Beth mae angen i mi ei wneud?
- Rydw i'n byw mewn fflat ac yn rhannu erial gyda eraill. Beth fydd angen i mi ei wneud?
-
Pryd fydd y newid yn cychwyn yn rhanbarth West Country?
Bydd y newid yn cychwyn yn ystod hanner cyntaf 2009 yn rhanbarth West Country. Bydd yn digwydd fesul trosglwyddydd, felly bydd gwahanol ardaloedd yn rhanbarth West Country yn newid i ddigidol ar wahanol adegau. Cyhoeddir dyddiadau newid pob trosglwyddydd yn agosach at yr amser.
-
Faint o amser fydd y newid yn ei gymryd yn rhanbarth West Country?
Bydd y gwaith peirianyddol paratoadol ar y mastiau darlledu ar draws rhanbarth teledu West Country yn cychwyn ymhell cyn 2008. Yn gyffredinol, ni ddylai hyn effeithio ar wylwyr ac eithrio rhai cyfnodau byr y tu allan i oriau gwylio brig pan effeithir ar y gwasanaeth.
Cyn y newid, rydym yn gobeithio gosod dangosydd ar y sgrîn a fydd yn dangos a oes angen i chi ddiweddaru eich erial neu beidio. Byddwn yn anfon gwybodaeth atoch am union ddyddiad y newid yn eich ardal yn agosach at yr amser. Bydd y newid yn dechrau trwy newid BBC Two i sianel ddigidol yn unig. Yna, bydd mis i ddatrys unrhyw broblemau a allai godi gyda’ch offer.
-
Mae fy nerbyniad yn wael ar hyn o bryd. A fydd darllediadau digidol yn gwella fy signal?
Mae’n dibynnu pa mor wael yw’ch derbyniad. Os yw’n gallu bod ychydig yn eiraog o bryd i’w gilydd, mae’n debygol y bydd eich derbyniad yn gwella ar ôl y newid. Fodd bynnag, os yw’ch derbyniad yn wael iawn ar hyn o bryd, mae’n annhebygol y bydd yn gwella, oherwydd dylai trosglwyddyddion digidol roi’r un fath o wasanaeth â’r hen system analog ar y cyfan. Mae gwasanaeth lloeren digidol yn ateb amgen da ac mae’n cynnig dewis ‘Freesat’ (am un taliad), yn ogystal â gwasanaeth tanysgrifio am dâl.
-
A fydd angen i mi gael erial newydd er mwyn cael darllediadau digidol?
Na fydd. Ym mwyafrif yr achosion, os yw’ch erial bresennol mewn cyflwr da, dylech fod yn gallu cael darllediadau digidol.
-
Rydw i'n cael fy narllediadau gan drosglwyddydd hunangymorth. A fyddaf yn cael signal daearol o hyd ar ôl y newid?
Trwyddedir trosglwyddyddion hunangymorth ar wahân gan OFCOM, y rheolydd darlledu, sy’n ystyried rôl trosglwyddyddion hunangymorth ar ôl y newid, ar hyn o bryd. Byddwn yn eich hysbysu o’i benderfyniad cyn gynted ag y gallwn.
-
Rydw i'n byw yn rhanbarth West Country ond rydw i’n cael gwasanaethau gan ranbarth arall (ee Cymru, HTV West, Meridian). A yw’r newid i ddigidol yn golygu y byddaf yn cael y gwasanaethau rhanbarthol cywir?
O bosibl. Gan ddibynnu pryd y gosodwyd eich erial, efallai y byddwch yn gweld bod trosglwyddydd mwy priodol yn bodoli er mwyn cael eich signal digidol ganddo. Dylech gysylltu â’ch cwmni erialau teledu lleol sydd wedi cofrestru gyda CAI i gael cyngor am y trosglwyddydd a fydd yn rhoi’r signal cryfaf i chi.
-
Ni chefais daflen. Beth mae angen i mi ei wneud?
Bydd yn cymryd nifer o wythnosau i’r Post Brenhinol ddosbarthu’r daflen yn rhanbarth teledu West Country. Gallwch lawrlwytho copi o’r daflen yma.
-
Rydw i'n byw mewn fflat ac yn rhannu erial gyda eraill. Beth fydd angen i mi ei wneud?
Os ydych yn rhannu erial gydag eraill, efallai bod gennych system deledu gyffredin. Os felly, efallai y bydd angen addasu hon i gael teledu digidol. Dylai’ch landlord neu’ch asiant rheoli fod yn ymwybodol o hyn a dylent fod yn cynllunio ar ei gyfer – gofynnwch iddynt am ragor o wybodaeth neu gallwch lawrlwytho taflen o wefan Teledu Digidol y Llywodraeth.












