- Pryd fydd y newid yn cychwyn yng Nghymru?
- Faint o amser fydd y newid yn ei gymryd yng Nghymru?
- Mae fy nerbyniad yn wael ar hyn o bryd. A fydd darllediadau digidol yn gwella fy signal?
- Yn ogystal ag ITV Wales, rydw i’n gallu cael ITV West (De-ddwyrain Cymru) / Granada (Gogledd-ddwyrain Cymru). A fyddaf yn gallu cael dau fersiwn rhanbarthol ITV ar ôl diffodd y signal analog?
- Rydw i'n byw yng Ngogledd-ddwyrain Cymru ac rydw i’n cael signal da gan Granada yn ogystal ag ITV Wales. Pan fydd y newid yn digwydd, a fyddaf yn cael fy ystyried fel rhywun sy’n byw yng Nghymru neu yn rhanbarth Granada?
- A fydd pawb yng Nghymru yn gallu cael yr holl sianelau Freeview, hyd yn oed os ydynt yn cael eu signal teledu gan drosglwyddydd lleol bach?
- A fyddaf yn gallu cael rhaglenni Cymraeg S4C ar deledu digidol o hyd?
- A fyddaf yn gallu cael gwasanaeth presennol S4C, sy’n cynnwys rhaglenni Saesneg Channel 4 yn ogystal â rhaglenni i siaradwyr Cymraeg?
- Ni chefais daflen. Beth mae angen i mi ei wneud?
- Rydw i'n byw mewn fflat ac yn rhannu erial gyda eraill. Beth fydd angen i mi ei wneud?
- Os wyf yn tanysgrifio i wasanaeth cebl analog, a fydd y newid i ddigidol yn effeithio arnaf fi?
-
Pryd fydd y newid yn cychwyn yng Nghymru?
Bydd y newid yn cychwyn yn ystod hanner cyntaf 2009 yng Nghymru. Bydd yn digwydd fesul trosglwyddydd, felly bydd gwahanol ardaloedd yng Nghymru yn newid i ddigidol ar wahanol adegau. Cyhoeddir dyddiadau newid pob trosglwyddydd yn agosach at yr amser.
-
Faint o amser fydd y newid yn ei gymryd yng Nghymru?
Bydd y gwaith peirianyddol paratoadol ar y mastiau darlledu ar draws rhanbarth teledu Cymru yn cychwyn ymhell cyn 2008. Yn gyffredinol, ni ddylai hyn effeithio ar wylwyr ac eithrio rhai cyfnodau byr y tu allan i oriau gwylio brig pan effeithir ar y gwasanaeth.
Cyn y newid, rydym yn gobeithio gosod dangosydd ar y sgrîn a fydd yn dangos a oes angen i chi ddiweddaru eich erial neu beidio. Byddwn yn anfon gwybodaeth atoch am union ddyddiad y newid yn eich ardal yn agosach at yr amser. Bydd y newid yn dechrau trwy newid BBC Two i sianel ddigidol yn unig. Yna, bydd mis i ddatrys unrhyw broblemau a allai godi gyda’ch offer.
-
Mae fy nerbyniad yn wael ar hyn o bryd. A fydd darllediadau digidol yn gwella fy signal?
Mae’n dibynnu pa mor wael yw’ch derbyniad. Os yw’n gallu bod ychydig yn eiraog o bryd i’w gilydd, mae’n debygol y bydd eich derbyniad yn gwella ar ôl y newid. Fodd bynnag, os yw’ch derbyniad yn wael iawn ar hyn o bryd, mae’n annhebygol y bydd yn gwella, oherwydd dylai trosglwyddyddion digidol roi’r un fath o wasanaeth â’r hen system analog ar y cyfan. Mae gwasanaeth lloeren digidol yn ateb amgen da ac mae’n cynnig dewis ‘Freesat’ (am un taliad), yn ogystal â gwasanaeth tanysgrifio.
-
Yn ogystal ag ITV Wales, rydw i’n gallu cael ITV West (De-ddwyrain Cymru) / Granada (Gogledd-ddwyrain Cymru). A fyddaf yn gallu cael dau fersiwn rhanbarthol ITV ar ôl diffodd y signal analog?
Siŵr o fod. Os oes gennych erial safonol mewn cyflwr da ac os ydych yn cael derbyniad da ar gyfer yr holl sianelau ar hyn o bryd, dylech gael yr un sianelau ag yr ydych yn eu cael ar hyn o bryd, a llawer mwy. Efallai na fydd rhai pobl sydd ar gyrion y gwasanaeth yn gallu cael mwy nag un fersiwn o ITV trwy eu herial ar ôl y newid, er y bydd holl wasanaethau rhanbarth ITV ar gael ar wasanaeth lloeren digidol.
-
Rydw i'n byw yng Ngogledd-ddwyrain Cymru ac rydw i’n cael signal da gan Granada yn ogystal ag ITV Wales. Pan fydd y newid yn digwydd, a fyddaf yn cael fy ystyried fel rhywun sy’n byw yng Nghymru neu yn rhanbarth Granada?
Os ydych yn byw yng Nghymru, bydd Digital UK yn anfon gwybodaeth atoch sy’n berthnasol i Gymru. Ar ôl y newid, bydd eich signal yn well os bydd eich erial yn pwyntio tuag at eich trosglwyddydd analog presennol. Dylech gysylltu â gosodwr erialau cofrestredig am ragor o wybodaeth.
-
A fydd pawb yng Nghymru yn gallu cael yr holl sianelau Freeview, hyd yn oed os ydynt yn cael eu signal teledu gan drosglwyddydd lleol bach?
Os yw’ch signal teledu yn dod wrth drosglwyddydd llai, byddwch yn parhau i gael yr holl sianelau gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys yr holl sianelau BBC digidol ychwanegol a gwasanaethau ychwanegol gan ITV, Channel 4, S4C a Five, yn ogystal â nifer o wasanaethau radio digidol. Fodd bynnag, efallai na fyddwch yn gallu cael ystod lawn y sianelau masnachol sydd ar gael ar Freeview, fel Sky News.
-
A fyddaf yn gallu cael rhaglenni Cymraeg S4C ar deledu digidol o hyd?
Byddwch, byddwch yn gallu cael S4C Digidol, sy’n cynnwys llawer yn fwy o raglenni Cymraeg na hen fersiwn analog S4C. Byddwch yn cael S4C2 hefyd, sy’n darlledu o’r Cynulliad Cenedlaethol gyda thraciau sain yn Gymraeg ac yn Saesneg.
-
A fyddaf yn gallu cael gwasanaeth presennol S4C, sy’n cynnwys rhaglenni Saesneg Channel 4 yn ogystal â rhaglenni i siaradwyr Cymraeg?
Mae hen wasanaeth analog S4C yn cynnwys rhaglenni Cymraeg yn ystod oriau brig a rhaglenni Channel 4 ar adegau eraill. Bydd y gwasanaeth hwn yn dod i ben ar ôl y newid, a bydd yn cael ei ddisodli gan ddau wasanaeth – Channel 4 (nad yw ar gael i’r mwyafrif yng Nghymru ar hyn o bryd oni bai bod ganddynt loeren) ac S4C Digidol, sy’n cynnig gwasanaeth llawn i siaradwyr Cymraeg.
-
Ni chefais daflen. Beth mae angen i mi ei wneud?
Bydd yn cymryd nifer o wythnosau i’r Post Brenhinol ddosbarthu’r daflen yn rhanbarth teledu Cymru. Gallwch lawrlwytho copi o’r daflen yma.
-
Rydw i'n byw mewn fflat ac yn rhannu erial gyda eraill. Beth fydd angen i mi ei wneud?
Os ydych yn rhannu erial gydag eraill, efallai bod gennych system deledu gyffredin. Os felly, efallai y bydd angen addasu hon i gael teledu digidol. Dylai’ch landlord neu’ch asiant rheoli fod yn ymwybodol o hyn a dylent fod yn cynllunio ar ei gyfer – gofynnwch iddynt am ragor o wybodaeth neu gallwch lawrlwytho taflen o wefan Teledu Digidol y Llywodraeth.
-
Os wyf yn tanysgrifio i wasanaeth cebl analog, a fydd y newid i ddigidol yn effeithio arnaf fi?
Ni fydd y newid i ddigidol yn effeithio ar y nifer fach o wasanaethau cebl analog sydd ar ol ym Mhrydain. Er bod mwyafrif y cwmniau cebl yn symud eu cwsmeriaid i wasanaeth digidol, mae ambell un megis Wrights Radio Relay yn y Drenewydd yn bwriadu parhau i gynnig gwasanaethau analog ar ol y newid, yn ogystal a gwasanaethau digidol 'Freeview'. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, dylech gysylltu a'r cyflenwr teledu cebl yn eich ardal.












