- Faint o amser fydd y newid yn ei gymryd?
- Ni allaf gael sianel Five ar hyn o bryd – a fyddaf yn gallu cael digidol?
- Ni allaf gael teledu lloeren oherwydd cyfyngiadau cynllunio – a fyddaf yn gallu cael digidol?
- Byddaf yn mynd i ardal y Llynnoedd yn fy ngharafán yn rheolaidd. Beth fydd ei angen arnaf er mwyn newid i ddigidol?
- Rydw i'n byw yn ardal Dumfries a Galloway ac rydw i’n cael Freeview yn barod ond dim ond gwasanaethau Saesneg y gallaf eu cael ganddo. A fyddaf yn cael gwasanaethau Albanaidd trwy’r system ddigidol ar ôl y newid?
- Ni allaf gael Freeview – a fyddaf yn gallu cael digidol?
- Rydw i'n byw yn Carlisle ac rydw i newydd gael taliad yswiriant ar ôl y llifogydd fis Ionawr diwethaf. A ddylwn brynu set deledu integredig (iDTV)?
- A fydd cynllun i helpu’r oedrannus neu eraill y mae angen help penodol arnynt?
- Faint fydd hyn yn ei gostio?
- Ni chefais daflen. Beth mae angen i mi ei wneud?
- Rydw i'n byw mewn fflat ac yn rhannu erial gyda eraill. Beth fydd angen i mi ei wneud?
-
Faint o amser fydd y newid yn ei gymryd?
Bydd y gwaith peirianyddol paratoadol ar y mastiau darlledu ar draws rhanbarth teledu Border yn cychwyn ymhell cyn 2008. Yn gyffredinol, ni ddylai hyn effeithio ar wylwyr ac eithrio rhai cyfnodau byr y tu allan i oriau gwylio brig pan effeithir ar y gwasanaeth. Cyn y newid, rydym yn gobeithio gosod dangosydd ar y sgrîn a fydd yn dangos a oes angen i chi ddiweddaru eich erial neu beidio.
Byddwn yn anfon gwybodaeth atoch am union ddyddiad y newid yn eich ardal yn agosach at yr amser. Bydd y newid yn dechrau trwy newid BBC Two yn sianel ddigidol yn unig. Yna, bydd mis i ddatrys unrhyw broblemau a allai godi gyda’ch offer.
-
Ni allaf gael sianel Five ar hyn o bryd – a fyddaf yn gallu cael digidol?
Byddwch, ar ôl y newid, bydd y trefniadau i ddarlledu sianel Five yr un fath â’r prif sianelau eraill. Os ydych yn gallu cael gwasanaethau BBC, ITV a S4C/Channel 4 trwy eich erial ar hyn o bryd, dylech fod yn gallu cael sianel Five ar ôl y newid.
-
Ni allaf gael teledu lloeren oherwydd cyfyngiadau cynllunio – a fyddaf yn gallu cael digidol?
Byddwch, byddwch yn gallu cael teledu digidol os na allwch gael teledu lloeren oherwydd gallwch gael teledu digidol trwy eich erial, neu trwy gebl hefyd. Cofiwch bydd nifer y bobl a fydd yn gallu cael teledu digidol trwy erial yn codi’n sylweddol ar ôl y newid. Dylech fod yn ymwybodol bod y Llywodraeth wedi llacio cyfyngiadau cynllunio yn ddiweddar: dyma’r wybodaeth am y rheoliadau newydd.
-
Byddaf yn mynd i ardal y Llynnoedd yn fy ngharafán yn rheolaidd. Beth fydd ei angen arnaf er mwyn newid i ddigidol?
Bydd angen i chi newid i ddigidol os byddwch yn teithio o gwmpas rhanbarth Border o ddiwedd 2008 ymlaen. Os ydych yn cael eich gwasanaeth teledu trwy erial, bydd yn rhaid i chi brynu bocs digidol. Edrychwch am logo y tic digidol a gofynnwch i adwerthwr am ragor o wybodaeth.
-
Rydw i'n byw yn ardal Dumfries a Galloway ac rydw i’n cael Freeview yn barod ond dim ond gwasanaethau Saesneg y gallaf eu cael ganddo. A fyddaf yn cael gwasanaethau Albanaidd trwy’r system ddigidol ar ôl y newid?
Darlledir y gwasanaethau Albanaidd ar Freeview yn yr ardal hon ar ôl y newid.
-
Ni allaf gael Freeview – a fyddaf yn gallu cael digidol?
Dim ond trwy ddiffodd yr hen signal y bydd modd cynnig Freeview (teledu digidol a geir trwy erial) i bawb. Efallai eich bod yn gallu cael teledu digidol nawr trwy loeren neu gebl.
-
Rydw i'n byw yn Carlisle ac rydw i newydd gael taliad yswiriant ar ôl y llifogydd fis Ionawr diwethaf. A ddylwn brynu set deledu integredig (iDTV)?
Efallai y byddai’n syniad da cael set deledu ddigidol integredig (sy’n cynnwys technoleg ddigidol) ond nid oes yn rhaid i chi wneud hynny. Gellir trosi bron pob set deledu gyda chymorth bocs digidol. Gallwch ddarganfod mwy am eich dewisiadau.
-
A fydd cynllun i helpu’r oedrannus neu eraill y mae angen help penodol arnynt?
Er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu manteisio ar deledu digidol, bydd y rhai y mae angen cymorth arnynt fwyaf yn cael cymorth i’w helpu drwy’r broses.
Bydd y cynllun cymorth yn darparu offer i drosi un set deledu, a help i’w osod a chymorth dilynol hefyd i bobl sy’n 75 oed ac yn hŷn a phobl sydd ag anableddau arwyddocaol – hynny yw, y rhai sy’n cael lwfans gweini neu lwfans byw i’r anabl. Os ydych yn gymwys i gael help, bydd rhywun yn cysylltu â chi yn agosach at yr amser.
-
Faint fydd hyn yn ei gostio?
Ceir ystod o ddewisiadau sy’n addas i bob cyllideb, gan gynnwys pecynnau tanysgrifio misol rhad neu un taliad syml am focs digidol neu wasanaethau lloeren a ddarlledir am ddim. Nid oes yn rhaid i chi brynu set deledu newydd oni bai eich bod yn dymuno gwneud hynny, oherwydd prin iawn yw’r setiau teledu nad oes modd eu haddasu. Gallwch gymharu cost eich dewisiadau digidol trwy droi at ein tabl cipolwg.
-
Ni chefais daflen. Beth mae angen i mi ei wneud?
Bydd yn cymryd nifer o wythnosau i’r Post Brenhinol ddosbarthu’r daflen yn rhanbarth teledu Border. Gallwch lawrlwytho copi o’r daflen yma.
-
Rydw i'n byw mewn fflat ac yn rhannu erial gyda eraill. Beth fydd angen i mi ei wneud?
Os ydych yn rhannu erial gydag eraill, efallai bod gennych system deledu gyffredin. Os felly, efallai y bydd angen addasu hon i gael teledu digidol. Dylai’ch landlord neu’ch asiant rheoli fod yn ymwybodol o hyn a dylent fod yn cynllunio ar ei gyfer – gofynnwch iddynt am ragor o wybodaeth neu gallwch lawrlwytho taflen o wefan Teledu Digidol y Llywodraeth.












