- Pa fath o deledu digidol sydd ar gael yn fy ardal?
- Faint fydd hyn yn ei gostio?
- A fydd yn rhaid i mi gael gwared ar fy set deledu?
- Os na fyddaf yn gwneud unrhyw beth, a fyddaf yn colli fy ngwasanaeth teledu?
- Ni allaf gael Freeview ar hyn o bryd. A yw hyn yn golygu y byddaf yn colli fy ngwasanaeth teledu ar ôl y newid?
- A fydd fy mheiriant recordio fideo yn gweithio o hyd ar ôl i mi gael gwasanaeth digidol?
- A fydd angen erial deledu newydd arnaf?
- Rydw i'n byw mewn fflat ac yn rhannu erial gyda eraill. Beth mae angen i mi ei wneud?
- A fydd newid i ddigidol yn effeithio ar fy nhrwydded deledu?
- Pa nodweddion y mae teledu digidol yn ei gynnig i’r rhai sydd â phroblemau ar eu golwg a’u clyw?
- A fydd y newid yn golygu y bydd pobl ddieithr yn ymweld â’m cartref?
- A fydd ffi'r drwydded yn talu am y newid i ddigidol?
- A fydd newid i ddigidol yn golygu y byddaf yn gallu cael teledu Diffiniad Uchel (HDTV)?
- Beth yw cebl scart?
- Rydw i wedi cael llythyr gan Digital Conversion Scheme. Beth yw hwn?
- Rydw i'n byw yn rhanbarth teledu Border, Cymru neu West Country ac nid ydw i wedi cael taflen. Beth mae angen i mi ei wneud?
- Faint ddylai erial newidd gostio?
-
Pa fath o deledu digidol sydd ar gael yn fy ardal?
Nodwch eich cod post yn archwiliwr cod post Digital UK ar y dudalen hon i ddarganfod pa ddewisiadau sydd ar gael yn eich ardal ar hyn o bryd. Cofiwch, ar ôl i’r newid ddigwydd, bydd y gallu i dderbyn y gwasanaeth teledu digidol trwy erial (Freeview) yn cynyddu’n sylweddol. Os ydych yn cael llun da trwy gyfrwng y system draddodiadol nawr, dylech fod yn gallu cael signal digidol trwy’ch erial (trwy focs digidol) ar ôl y newid.
-
Faint fydd hyn yn ei gostio?
Ceir ystod o ddewisiadau sy’n addas i bob cyllideb, gan gynnwys pecynnau tanysgrifio misol rhad, neu un taliad syml am focs digidol neu wasanaethau lloeren a ddarlledir am ddim. Yn bwysicaf oll, nid oes yn rhaid i chi brynu set deledu newydd oni bai eich bod yn dymuno gwneud hynny, oherwydd mae modd addasu bron pob set deledu trwy gysylltu ag un o’r dewisiadau hyn. Mae’r cynhyrchion a’r gwasanaethau drytach yn tueddu i gynnig rhagor o sianelau a gwasanaethau, yn ogystal â mwy o nodweddion.
-
A fydd yn rhaid i mi gael gwared ar fy set deledu?
Na fydd. Mae modd trosi bron pob set deledu i ddigidol trwy gyfrwng bocs digidol, hyd yn oed rhai du a gwyn.
-
Os na fyddaf yn gwneud unrhyw beth, a fyddaf yn colli fy ngwasanaeth teledu?
Byddwch – os nad oes gennych deledu digidol yn barod ac os na fyddwch yn gwneud unrhyw beth, ni fyddwch yn gallu parhau i wylio darllediadau teledu ar ôl y newid. (Cofiwch, mae’n debygol bod gennych deledu digidol yn barod os ydych yn gallu cael mwy na’r pum sianel draddodiadol).
Bydd angen i chi sicrhau bod pob set deledu yn eich cartref yr ydych yn dymuno ei defnyddio i wylio darllediadau teledu, yn gallu cael teledu digidol. Ni fydd angen trosi unrhyw set deledu yr ydych yn ei defnyddio i wylio tapiau fideo neu DVDs, neu gyda chonsol gemau yn unig.
-
Ni allaf gael Freeview ar hyn o bryd. A yw hyn yn golygu y byddaf yn colli fy ngwasanaeth teledu ar ôl y newid?
Na. Un o’r rhesymau dros y newid yw sicrhau bod rhagor o bobl yn gallu cael Freeview (teledu trwy eu herial). Dim ond trwy ddiffodd yr hen signal analog y gellir rhoi mwy o bŵer i’r signal digidol.
-
A fydd fy mheiriant recordio fideo yn gweithio o hyd ar ôl i mi gael gwasanaeth digidol?
Os ydych yn defnyddio peiriant recordio fideo (VCR) neu DVD er mwyn recordio, bydd angen i chi ei addasu trwy brynu bocs digidol ar ei gyfer, neu brynu peiriant recordio digidol yn ei le sy'n cynnwys bocs digidol, a elwir Personal Video Recorder (PVR) weithiau. Mae PVRs yn eich galluogi i rewi teledu byw, osgoi hysbysebion a recordio cyfresi rhaglenni trwy wasgu botwm. Gofynnwch i’ch adwerthwr neu gyflenwr am gyngor.
-
A fydd angen erial deledu newydd arnaf?
Ni fydd angen un ar y rhan fwyaf o gartrefi. Os byddwch yn dewis cael teledu digidol trwy erial ac os ydych wedi defnyddio ein archwiliwr cod post i sicrhau bod eich ardal yn cael ei chynnwys, dylech fod yn gallu cael teledu digidol. Os na allwch, dylech ystyriedwilio am osodwr sy’n meddu ar logo y ‘tic’ digidol – bydd hyn yn golygu eu bod yn Osodwr Digidol Cofrestredig. Neu, cysylltwch â Confederation of Aerial Industries (CAI).
-
Rydw i'n byw mewn fflat ac yn rhannu erial gyda eraill. Beth mae angen i mi ei wneud?
Os ydych yn rhannu erial gydag eraill, efallai bod gennych system deledu gyffredin. Os felly, efallai y bydd angen addasu hon i gael teledu digidol. Dylai’ch landlord neu’ch asiant rheoli fod yn ymwybodol o hyn a dylent fod yn cynllunio ar ei gyfer – gofynnwch iddynt am ragor o wybodaeth.Dyma Ganllaw Cynllunio ODPM i Ddeiliaid Tai sy’n cynnwys gwybodaeth am osod dysglau lloeren. Neu, gallwch droi atefan yr Adran Masnach a Diwydiant er mwyn lawrlwytho taflen sy’n cynnwys cyngor i landlordiaid a chymdeithasau tai ynghylch sut i baratoi eu heiddo ar gyfer digidol.
-
A fydd newid i ddigidol yn effeithio ar fy nhrwydded deledu?
Os oes angen trwydded deledu arnoch heddiw, bydd angen un arnoch o hyd ar ôl y newid i ddigidol.
-
Pa nodweddion y mae teledu digidol yn ei gynnig i’r rhai sydd â phroblemau ar eu golwg a’u clyw?
Mae rhai bocsys digidol yn cynnwys nodweddion arbennig fel isdeitlau, iaith arwyddion a disgrifiadau clywedol i bobl sydd â phroblemau ar eu golwg neu eu clyw. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch RNIB ar 0845 766 9999 neu RNID ar 0808 808 0123.
-
A fydd y newid yn golygu y bydd pobl ddieithr yn ymweld â’m cartref?
Ni fydd Digital UK yn anfon unrhyw un i’ch cartref. Pan fyddwch yn prynu, yn rhentu neu’n gosod offer teledu digidol, chwiliwch am adwerthwyr, cynhyrchwyr a gosodwyr sy’n dangos logo y tic digidol, sy’n dynodi cynhyrchion a gwasanaethau a gynlluniwyd i weithio trwy’r newid.
-
A fydd ffi'r drwydded yn talu am y newid i ddigidol?
Bydd y costau a neilltuwyd i gynorthwyo’r newid yn llai nag 20% o’r cynnydd arfaethedig yn ffi’r drwydded.
Mae Digital UK yn croesawu cymorth BBC. Mae’r newid yn her aruthrol ac mae’n gofyn am sefydliad wedi’i ariannu yn gywir (Digital UK) i’w reoli. Bydd yr arian arfaethedig yn helpu i sicrhau bod y newid yn digwydd mor llyfn ag y bo modd, gan helpu i sicrhau bod gwylwyr yn cael cyngor cywir a thawelwch meddwl am y newid. Gyda chymorth BBC, bydd y newid yn sicrhau y bydd y DU yn mwynhau dyfodol digidol lle y bydd rhagor o ddewis a rhaglenni o ansawdd uchel.
-
A fydd newid i ddigidol yn golygu y byddaf yn gallu cael teledu Diffiniad Uchel (HDTV)?
Na fydd. Mae HDTV yn dechnoleg newydd a fydd yn galluogi gwylwyr i gael lluniau teledu diffiniad uchel. Nid yw set deledu sy’n barod am HD yn set deledu ddigidol o reidrwydd. Gwnewch yn siŵr ei bod y cynnwys logo y ‘tic’ digidol, neu ewch i brynu bocs digidol i sicrhau eich bod yn barod am ddigidol.
-
Beth yw cebl scart?
Mae cebl scart yn eich helpu i gysylltu eich set deledu gydag offer teledu digidol. Efallai bod gennych set deledu nad yw’n cynnwys pwynt cyswllt ar gyfer cebl scart. Mae addasyddion ar gael sy’n eich galluogi i gysylltu cebl scart i’ch set deledu mewn amgylchiadau o’r fath.
-
Rydw i wedi cael llythyr gan Digital Conversion Scheme. Beth yw hwn?
Nid oes unrhyw gyswllt rhwng y cwmni sy’n masnachu fel ‘Digital Conversion Scheme’ a’r Llywodraeth, unrhyw awdurdod cyhoeddus na Digital UK.
-
Rydw i'n byw yn rhanbarth teledu Border, Cymru neu West Country ac nid ydw i wedi cael taflen. Beth mae angen i mi ei wneud?
Bydd yn cymryd nifer o wythnosau i’r Post Brenhinol ddosbarthu’r daflen yn y rhanbarthau hyn. Trowch at y dudalen berthnasol ar gyfer rhanbarthau Border, West Country neu Cymru i lawrlwytho copi.
-
Faint ddylai erial newidd gostio?
Bydd cost erial newydd yn amrywio ledled y DU ond yn gyffredinol, bydd yn amrywio o £80 i £150. Bydd hyn yn cynnwys cost yr erial a’r gosodiad. Dylai pwyntiau erial ychwanegol o gwmpas y cartref gostio rhwng £45 a £55 yr un. Efallai y bydd gosodwyr erialau yn codi tua £45 fel tâl cychwynnol am ddod allan, ond mae’n debygol y bydd hwn yn cael ei dynnu o’r gwaith y bydd angen ei wneud efallai, a chost erial newydd. Gwnewch yn siŵr bod eich gosodwr erialau yn dangos logo y ‘tic’ digidol neu eu bod wedi cofrestru gyda CAI.












