• Faint fydd hyn yn ei gostio?

    Ceir ystod o ddewisiadau sy’n addas i bob cyllideb, gan gynnwys pecynnau tanysgrifio misol rhad, neu un taliad syml am focs digidol neu wasanaethau lloeren a ddarlledir am ddim. Yn bwysicaf oll, nid oes yn rhaid i chi brynu set deledu newydd oni bai eich bod yn dymuno gwneud hynny, oherwydd mae modd addasu bron pob set deledu trwy gysylltu ag un o’r dewisiadau hyn. Mae’r cynhyrchion a’r gwasanaethau drytach yn tueddu i gynnig rhagor o sianelau a gwasanaethau, yn ogystal â mwy o nodweddion.

    Dychwelyd i’r brig

  • A oes modd i mi gael unrhyw help?

    Yn ogystal â Digital UK, gallwch gael cyngor gan eich adwerthwr trydanol, eich cwmni rhentu teledu neu gan y cwmnïau sy’n cyflenwi teledu digidol.

    Dychwelyd i’r brig

  • A oes unrhyw un yn gallu gosod yr offer newydd i mi?

    Os ydych yn cael offer newydd, bydd eich adwerthwr neu’ch cwmni rhentu teledu yn gallu trefnu bod yr offer yn cael ei osod, er y codir tâl am hyn efallai. Os byddwch yn tanysgrifio i deledu digidol (cebl, lloeren neu trwy linell ffôn), bydd y cwmni yn gosod yr offer i chi fel rhan o’r pecyn. Efallai y byddwch yn gallu cael help ychwanegol hefyd os ydych yn 75 oed neu'n hŷn neu os ydych wedi’ch cofrestru yn anabl. Os ydych yn gymwys i gael yr help ychwanegol hwn, bydd rhywun yn cysylltu â chi yn agosach at ddyddiad y newid yn eich ardal.

    Dychwelyd i’r brig

  • Sut fyddaf yn gwybod fy mod yn cael gwasanaeth safonol gan fasnachwyr?

    Dylai pobl fod yn ymwybodol y bydd masnachwyr yn ceisio manteisio ar y newid i ddigidol efallai trwy gynnig cyngor, gwasanaethau a nwyddau anawdurdodedig, offer diffygiol neu trwy godi gormod am wasanaethau. Os bydd angen diweddaru eich erial er mwyn cael teledu digidol, dylech gysylltu â CAI (Confederation of Aerial Industries), a fydd yn gallu rhoi manylion gosodwr cymwys yn eich ardal i chi. Dylech chwilio am logo y ‘tic’ digidol bob amser wrth brynu cynhyrchion teledu digidol.

    Dychwelyd i’r brig

  • A fydd cynllun i helpu’r oedrannus neu eraill y mae angen help penodol arnynt?

    Er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu manteisio ar deledu digidol, bydd y rhai y mae angen cymorth arnynt fwyaf yn cael cymorth i’w helpu drwy’r broses.

    Bydd y cynllun cymorth yn darparu offer i drosi un set deledu, a help i’w osod a chymorth dilynol hefyd i bobl 75 oed ac yn hŷn a phobl sydd ag anableddau arwyddocaol – hynny yw, y rhai sy’n cael lwfans gweini neu lwfans byw i’r anabl. Os ydych yn gymwys i gael help, bydd rhywun yn cysylltu â chi yn agosach at yr amser.

    Ni chodir tâl ar y cartrefi cymwys tlotaf am yr help hwn – e.e. y rhai ar Gymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith neu’r Credyd Pensiwn. Efallai y codir ffi fach am yr help hwn ar gartrefi eraill.

    Os ydych yn gymwys i gael help, anfonir rhagor o wybodaeth atoch ymhell cyn i’ch ardal newid i ddigidol.

    Dychwelyd i’r brig

  • Faint ddylai erial newydd gostio?

    Bydd cost erial newydd yn amrywio ledled y DU ond yn gyffredinol, bydd yn amrywio o £80 i £150. Bydd hyn yn cynnwys cost yr erial a’r gosodiad. Dylai pwyntiau erial ychwanegol o gwmpas y cartref gostio rhwng £45 a £55 yr un. Efallai y bydd gosodwyr erialau yn codi tua £45 fel tâl cychwynnol am ddod allan, ond mae’n debygol y bydd hwn yn cael ei dynnu o’r gwaith y bydd angen ei wneud efallai, a chost erial newydd. Gwnewch yn siŵr bod eich gosodwr erialau yn dangos logo y ‘tic’ digidol neu eu bod wedi cofrestru gyda CAI.

    Dychwelyd i’r brig

  • Sut fyddaf yn gwybod a yw fy system deledu gyfunol wedi cael ei diweddaru ar gyfer y newid i ddigidol yn barod?

    Bydd eich landlord neu’ch asiant rheoli yn gallu dweud wrthych.

    Dychwelyd i’r brig

  • Pwy fydd yn gorfod talu am unrhyw waith i ddiweddaru fy system deledu gyfunol?

    Eich landlord neu’ch asiant rheoli sy’n gyfrifol am drefnu a thalu am unrhyw waith i ddiweddaru’r system. Efallai y gofynnir i chi wneud cyfraniad arbennig neu efallai y defnyddir taliadau gwasanaeth neu daliadau rheoli sy’n bodoli eisoes i dalu am y gwaith. Yn yr un modd ag unrhyw berchennog tŷ, chi fydd yn gyfrifol am dalu’r gost o ddiweddaru’r offer teledu yn eich cartref. Mae’r bocsys digidol rhataf yn costio oddeutu £30 ac mae’r costau yn disgyn drwy’r amser.

    Dychwelyd i’r brig

  • Beth os bydd fy landlord neu fy asiant rheoli yn gwrthod diweddaru fy system deledu gyfunol?

    Efallai bod eich prydles neu’ch cytundeb tenantiaeth yn mynnu bod eich landlord neu’ch asiant rheoli yn darparu system deledu gyfunol a sicrhau ei bod yn gweithio.

    Efallai y bydd landlordiaid preifat neu asiantau rheoli yn cael problemau wrth brydlesu yn y dyfodol os na all eiddo gael signal teledu. Mewn rhai achosion e.e. fflatiau preifat, efallai y bydd y rhydd-ddeiliad yn gyfrifol am benderfynu diweddaru’r system deledu gyfunol ac efallai na fydd eich landlord neu’ch asiant rheoli yn gallu gweithredu heb sicrhau eu cytundeb.

    Os byddwch yn cael unrhyw broblemau gyda’ch landlord neu’ch asiant rheoli, cysylltwch â’ch Canolfan Gynghori leol.

    Dychwelyd i’r brig

  • Sut allaf orfodi fy landlord neu fy asiant rheoli i osod system sy’n rhoi dewis i mi?

    Dylai’ch landlord neu’ch asiant rheoli fod yn agored i safbwyntiau ynghylch y dewisiadau sydd ar gael. Gwnewch yn siŵr eich bod yn trafod y materion hyn gyda’ch landlord neu’ch asiant rheoli a’ch cymdeithas tenantiaid os oes un gennych.

    Dychwelyd i’r brig

  • A oes modd i mi gymryd camau fy hun i ddiweddaru’r system?

    Na. Fodd bynnag, efallai y bydd landlordiaid neu asiantau rheoli yn caniatáu i chi osod eich dysgl loeren neu’ch erial unigol eich hun a fydd yn galluogi eich eiddo chi yn unig i gael teledu digidol.

    Dychwelyd i’r brig

  • A fyddaf yn gallu cael teledu digidol trwy erial yn y cartref?

    Os ydych yn cael lluniau teledu da ar erial yn y cartref heddiw, dylech fod yn gallu cael gwasanaethau teledu digidol ar ôl y newid. Ni fydd hyn yn ddewis i bawb gan bod erialau yn y cartref yn wannach ac yn fwy tebygol o ddioddef ymyrraeth.

    Dychwelyd i’r brig

  • A yw’r Llywodraeth yn bwriadu helpu landlordiaid ac asiantau rheoli i ddeall yr hyn i’w wneud?

    Mae’r Llywodraeth wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleol, pob cymdeithas dai a phob sefydliad sy’n cynrychioli asiantau rheoli a landlordiaid sector cyhoeddus a nifer o gyrff mawr sy’n cynrychioli’r sector preifat er mwyn sicrhau eu bod yn gwybod bod yn rhaid iddynt addasu systemau teledu cyfunol a’r hyn y mae angen iddynt ei wneud. Yn ogystal, lluniwyd canllaw i roi cyngor pellach iddynt.

    Dychwelyd i’r brig

  • Pa gymorth sydd ar gael?

    Bydd y Cynllun Cymorth yn rhoi cymorth ymarferol er mwyn helpu pobl i ddewis, gosod a defnyddio offer teledu digidol.  Yn ôl yr angen, gallai hyn gynnwys darparu erial ar ben set deledu neu ddiweddaru erial ar ben to.  Rhoddir offer i bob cartref cymwys i drosi un set deledu. 

     

    Dychwelyd i’r brig

  • Faint fydd hyn yn ei gostio?

    Bydd y ddarpariaeth hon yn rhad ac am ddim i’r cartrefi tlotaf sy’n gallu manteisio arno h.y.  y rhai sy’n cael Cymhorthdal Incwm, y Lwfans Ceisio Gwaith neu’r Credyd Pensiwn.  Disgwylir i gartrefi cymwys eraill dalu ffi gymharol fach.

    Dychwelyd i’r brig

  • Pa offer y byddaf yn ei gael?

    Bydd pob cartref cymwys yn cael dewis sylfaenol o ffyrdd o gael gwasanaethau teledu digidol, gan ddibynnu ar y darparwyr teledu digidol sydd ar gael yn eu rhanbarth.  Y dewis sylfaenol yw bocs digidol a fydd yn rhoi hyd at 40 o sianelau teledu i bob cartref.  Os bydd y rhai sy’n gymwys yn dymuno dewis offer neu wasanaethau teledu digidol eraill (e.e.  IDTVs neu beiriannau recordio digidol) byddant yn cael cyfraniad sy’n cyfateb â gwerth y dewis sylfaenol.

    Dychwelyd i’r brig

  • Pryd fydd pobl yn cael y cymorth?

    Rhagwelwn y bydd pobl yn gallu cael cymorth tua 8 mis cyn y byddant yn newid i ddigidol.

    Dychwelyd i’r brig

  • Beth mae angen i mi ei wneud?

    Dim byd. Cysylltir â chi ymhell cyn i’ch rhanbarth newid i ddigidol gyda manylion am sut y mae’r cynllun yn gweithio a’r dewisiadau digidol sydd ar gael yn eich rhanbarth.

    Dychwelyd i’r brig

  • A fydd y cynllun yn barod ar gyfer y newid yn ardal Whitehaven?

    Bydd, bydd pawb yn Whitehaven a’r cyffiniau yn cael y cymorth sydd ar gael iddynt.

    Dychwelyd i’r brig

  • Sut fyddwch yn sicrhau na fydd twyllwyr yn targedu pobl sy’n agored i niwed?

    Bydd pob gosodwr teledu digidol a gyflogir gan y cynllun yn cael eu hyfforddi a’u harchwilio yn gywir (gan gynnwys archwiliadau cofnodion troseddol) a byddant yn dangos y manylion adnabod priodol.  Gallwch fod yn dawel eich meddwl na fydd gosodwr digidol yn galw gyda chi yn eich cartref heb wneud apwyntiad yn gyntaf. 

    Rydym yn cydweithio'n agos gyda Help the Aged, Age Concern a grwpiau defnyddwyr eraill i ddatblygu'r trefniadau.  

     

    Dychwelyd i’r brig

  • Faint o bobl/cartrefi fydd yn cael cymorth?

    Rydym yn amcangyfrif y bydd oddeutu 7 miliwn o gartrefi yn y DU yn gallu cael cymorth gan Gynllun Cymorth y Newid i Ddigidol rhwng 2008 a 2012.

    Dychwelyd i’r brig

Section navigation

A oes modd i mi gael teledu Digidol?

Eich cod post

Nodwch eich cod post i weld pa wasanaethau digidol sydd ar gael yn eich ardal ar hyn o bryd

Why do you need this?