- Pwy yw Digital UK a beth mae’n ei wneud?
- Pwy sydd y tu ôl i Digital UK?
- Gyda phwy y mae Digital UK yn gweithio?
-
Pwy yw Digital UK a beth mae’n ei wneud?
Digital UK yw’r sefydliad dielw, annibynnol sy’n arwain proses y newid i deledu digidol yn y DU.
Mae Digital UK yn darparu gwybodaeth ddiduedd am yr hyn y mae angen i bobl ei wneud er mwyn paratoi ar gyfer y newid i ddigidol, a phryd y mae angen iddynt ei wneud.
-
Pwy sydd y tu ôl i Digital UK?
Gweithredir Digital UK gan SwitchCo Ltd. Sefydlwyd SwitchCo Ltd ar gais y Llywodraeth. Mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus y DU (BBC, ITV, Channel 4, Five, S4C a Teletext), SDN a National Grid Wireless, yn berchen arno ar y cyd.
-
Gyda phwy y mae Digital UK yn gweithio?
Bydd Digital UK yn gweithio gyda gweithredwyr platfformau teledu digidol, cynhyrchwyr offer, gosodwyr, adwerthwyr, cwmnïau rhentu a grwpiau defnyddwyr i gydlynu’r broses dechnegol o gyflwyno teledu digidol ar draws y DU.












