Mae Digital UK wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn gallu manteisio ar ei wefan.Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau ynghylch hygyrchedd y wefan hon, cysylltwch â ni.

Llwybrau byr i Hygyrchedd

  • Newid maint y testun

    Mae’r rhan fwyaf o borwyr yn cynnwys y gallu i newid maint y testun ar y sgrîn i lefel yr ydych yn teimlo’n gyffyrddus â hi.Mae’r offeryn hwn ar gael yn newislen y porwyr amrywiol, fel a ganlyn:

    PorwrCyfarwyddiadau
    Internet Explorer 5, 5.5, 6 (PC) View > Text Size
    Firefox, Netscape 8 View > Text Size
    Opera View > Zoom
    Netscape 6, 7, Mozilla View > Text Zoom
    Safari (Mac) View > Make Text Bigger

    Neu, os ydych yn defnyddio porwr modern ac os oes gennych lygoden sy’n cynnwys olwyn, gallwch newid maint y testun trwy bwyso ctrl (Cyfrifiadur Personol) neu command (Mac) ar eich bysellfwrdd wrth sgrolio i fyny ac i lawr gyda’r olwyn ar y lygoden.

    Back to top

  • Bysellau cyrchu

    Mae swyddogaeth y fysell gyrchu yn eich galluogi i symud o gwmpas gwefan heb ddefnyddio eich llygoden i glicio ar gysylltau.

    Trwy ddefnyddio eich bysellfwrdd, mae modd neidio’n uniongyrchol i gysylltau penodol neu rannau penodol o dudalen, heb orfod symud eich llygoden o gwbl.

    Trwy bwyso alt+[bysell gyrchu] (Cyfrifiadur Personol) neu ctrl+[bysell gyrchu] (Mac), amlygir cyswllt. Yna, gallwch bwyso bysell enter i weithredu’r cyswllt.

    Swyddogaeth Bysell gyrchu
    Dychwelyd i'r dudalen hafan 1
    Symud i’r cynnwys 2
    Symud i offer a llywio eang 3
    Symud i adran - lywio 4
    Cysylltu â ni 5
    Newid iaith 6
    Datganiad hygyrchedd (y dudalen hon) 0

    Dychwelyd i’r brig

  • Defnyddio bysell tab

    Gallwch ddefnyddio bysell Tab ar eich bysellfwrdd i symud rhwng cysylltau ar dudalen. Bydd pwyso Tab unwaith yn amlygu’r cyswllt nesaf a bydd Shift+Tab yn amlygu’r cyswllt blaenorol.

    Pan fyddwch yn defnyddio bysell Tab i symud rhwng cysylltau ar wefan Digital UK, byddwch yn cael eich tywys drwyddynt yn y drefn ganlynol:

    • Rhan prif gynnwys y dudalen
    • Colofn dde (os yw’n bresennol)
    • Colofn chwith
    • Newid iaith a phrif gysylltau llywio Eilradd
    • (h.y. troedyn)

    Mae pob ffurflen ar wefan Digital UK yn cynnwys dilyniant tab rhesymegol.

    Dychwelyd i’r brig

  • Cyferbynnedd

    Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau ein bod wedi defnyddio cyferbynnedd digonol ar wefan Digital UK ond os byddwch yn sylwi ar unrhyw gyfuniadau lliw sy’n peri problemau i chi, cysylltwch â ni.

    Dychwelyd i’r brig

  • Cydymffurfio â safonau

    • Mae’n tudalennau yn cydymffurfio gydag o leiaf safon cydymffurfio Lefel AA a nodwyd gan Web Content Accessibility Guidelines ac a gymeradwywyd gan Royal National Institute for the Blind (RNIB).Bodlonir mwyafrif y gofynion AAA hefyd. Mae’r holl dudalennau yn dilysu fel rhai XHTML 1.0 Trawsnewidiol gan ddefnyddio system farcio semantig strwythuredig.
    • Mae’n gwefan yn mynnu nifer o wahanol dechnegau CSS er mwyn sicrhau cytunedd ar draws porwyr, sy’n gallu peri problemau i ddilyswyr. Fodd bynnag, rydym wedi sicrhau nad yw’r holl dechnegau a ddefnyddir gennym yn niweidiol i hygyrchedd y wefan.
    • Rydym yn ymdrechu i ufuddhau i ysbryd Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (DDA) 1995 o ran darparu gwasanaethau ar-lein, yn unol â gofynion Comisiwn Hawliau’r Anabl (DRC).
    • Rydym yn defnyddio Bobby i brofi hygyrchedd, fodd bynnag, dim ond un agwedd ar ein gwaith profi yw hyn. Fel rhaglen gyfrifiadurol, nid yw prawf Bobby mor ddibynadwy â gwaith gwerthuso arbenigol. Bydd tudalennau yn cael eu profi yn y darllenwyr sgrîn canlynol hefyd: IBM Homepage Reader.

    Dychwelyd i’r brig