Digital UK yw’r sefydliad dielw, annibynnol sy’n arwain proses y newid i deledu digidol yn y DU. Mae Digital UK yn darparu gwybodaeth ddiduedd am yr hyn y mae angen i bobl ei wneud er mwyn paratoi ar gyfer y newid i ddigidol, a phryd y mae angen iddynt ei wneud.
Yn ogystal, bydd Digital UK yn gweithio gyda gweithredwyr platfformau teledu digidol, cynhyrchwyr offer, gosodwyr, adwerthwyr, cwmnïau rhentu a grwpiau defnyddwyr i gydlynu’r broses dechnegol o gyflwyno teledu digidol ar draws y DU.
Gweithredir Digital UK gan SwitchCo Ltd ac fe’i sefydlwyd ar gais y Llywodraeth. Mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus y DU (BBC, ITV, Channel 4, Five, S4C a Teletext), SDN a National Grid Wireless, yn berchen arno ar y cyd.
Tîm Rheoli
Ford Ennals Prif Weithredwr
Ymunodd Ford Ennals â Digital UK (SwitchCo yn flaenorol) ym mis Ebrill 2005.
Mae Ford wedi cyflawni swyddi blaenllaw yn y sector preifat i gorfforaethau mawr ac wedi bod yn gyfrifol am farchnata, gwasanaethau cwsmeriaid a rhaglenni newid.
Yn flaenorol, bu Ford yn gweithio yn y diwydiant adloniant i Universal Music and Pictures ers 2002 fel Cyfarwyddwr Rheoli Universal Group Direct, ei adran gwerthu a marchnata uniongyrchol, ac fel Prif Swyddog Marchnata y Grŵp ym Mhrydain.
Cyn hynny, ef oedd Cyfarwyddwr Marchnata Grŵp ar gyfer grŵp Lloyds TSB, lle y bu’n gyfrifol am lansio brand Lloyds TSB ac integreiddiad llwyddiannus y ddau fusnes ar ôl iddynt uno.
Yn ogystal, mae ei yrfa helaeth ym myd marchnata wedi cynnwys swyddi fel Cyfarwyddwr Marchnata Byd-eang British Airways; Is-lywydd Uwch, marchnata Byd-eang i Reebok; a Chyfarwyddwr Brandiau Mars yn y DU ac yn UDA.
Barry Cox Cadeirydd
Etholwyd Barry yn gadeirydd Digital UK ym mis Ebrill 2005.
Yn flaenorol, bu’n gweithio fel newyddiadurwr i bapurau newydd Scotsman a Sunday Telegraph, rhaglen deledu World in Action gan Granada ac yna yn LWT, lle y daeth yn Rheolwr Eitemau a Materion Cyfoes, ac yna’n Gyfarwyddwr Materion Cyfoes.
Ef oedd Cyfarwyddwr ITV Association rhwng 1995 a 1998 ac am saith mlynedd, ef oedd Dirprwy Gadeirydd Channel 4. Mae’n ymgynghorydd gydag ITN hefyd.
Roedd Barry yn gadeirydd Grŵp Budd-ddeiliaid Digital TV rhwng 2002 a 2004 ac yn Athro Ymweld News International mewn Cyfryngau Darlledu ym Mhrifysgol Rhydychen yn 2003.












